Pont Jacques Cartier
Pont ddur sy'n rhychwantu Afon Sant Laurent ym Montréal, Canada. Mae'n cysylltu canol y ddinas (Ynys Montréal) yn y gogledd â maesdref Longueuil y ddinas ar yr ochr ddeheuol.
Math | cantilever bridge, pont ffordd, metal bridge |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jacques Cartier |
Agoriad swyddogol | 24 Mai 1930 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Afon St Lawrence |
Lleoliad | Longueuil |
Sir | Ville-Marie, Le Vieux-Longueuil |
Gwlad | Canada |
Cyfesurynnau | 45.5208°N 73.535°W |
Hyd | 2,687 metr |
Rheolir gan | The Jacques Cartier and Champlain Bridges Incorporated |
Perchnogaeth | Federal Bridge Corporation |
Deunydd | dur |
Disgrifiad
golyguFe'i hagorwyd i draffig ar 14 Mai 1930, gan gael ei hagor yn swyddogol ddeg diwrnod yn ddiweddarach. Ei henw gwreiddiol oedd Pont du Havre, ond cafodd ei hailenwi ym 1934 er parch am Jacques Cartier, y fforiwr Ewropeaidd cyntaf i ddarganfod Canada ym 1534, i ddathlu pedwarcanmlwyddiant darganfyddiad Canada. Cymerodd ddwy flynedd a hanner i'w hadeiladu. Heddiw mae'r bont yn dwyn tua 43 miliwn o gerbydau bob blwyddyn, mwy nag unrhyw bont arall yng Nghanada heblaw am Bont Champlain, sydd hefyd ym Montréal.