Fforiwr arloesol o Lydaw a fu'n archwilio rhannau o Ganada yn yr 16g oedd Jacques Cartier (Llydaweg: Jakez Karter) (31 Rhagfyr 14911 Medi 1557).

Jacques Cartier
Jacques Cartier 1851-1852.jpg
Ganwyd 31 Rhagfyr 1491 Edit this on Wikidata
Rothéneuf Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Medi 1557 Edit this on Wikidata (65 oed)
Achos: y pla Edit this on Wikidata
Sant-Maloù Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth morlywiwr, fforiwr Edit this on Wikidata
Swydd Governor of New France Edit this on Wikidata
Llofnod
Jacques Cartier Signature.svg

Y fordaith gyntaf, 1534Golygu

Fe'i dewiswyd gan Frenin Ffrainc, Ffransis I, i archwilio "ynysoedd a thiroedd lle y dywedir bod llawer o aur a thrysorau eraill". Gadawodd Sant-Maloù ar 20 Ebrill 1534 i chwilio am lwybr gorllewinol i farchnadoedd cyfoethog Asia. Methodd â chyrraedd Asia, ond archwiliodd yn hytrach rannau o Newfoundland a dwyrain Canada. Pan ddysgodd am Afon St Lawrence, dechreuodd feddwl mai dyna oedd y ffordd chwedlonol i Asia. Yn ystod y daith, glaniodd ar safle tref bresennol Gaspé (Québec), lle herwgipiodd ddau o feibion Pennaeth Donnacona, pennaeth un o'r llwythi Iroquoiaidd brodorol, a'u cludo nhw yn ôl i Ffrainc.

Yr ail fordaith, 1535–6Golygu

Y flwyddyn ganlynol, gyrrwyd Cartier yn ôl ar ei ail daith i ogledd America gyda thair llong, 110 o ddynion a'r meibion a herwgipiwyd i ddangos y ffordd iddo. Dychwelodd y bechgyn i'w llwyth. Hwyliodd i fyny afon St Lawrence hyd at bentrefi Stadacona (lleoliad dinas Québec heddiw) a Hochelaga (Montréal). Ar ôl herwgipio rhai o'r pennaethiaid Irowuoiadd, clywodd am wlad o'r enw Saguenay i'r gogledd, y tebygid iddi fod yn llawn aur a thrysorau eraill. Ar ôl gaeaf anodd ar ei safle ger Stadacona, cyrhaeddodd Sant-Maloù unwaith eto ar 15 Gorffennaf 1536.

Y drydedd fordaith, 1541–2Golygu

Ar 23 Mai 1541, aeth Cartier yn ôl i ogledd America ar ei drydedd daith, gan gyrraedd Stadacona ar 23 Awst. Ei nod oedd ceisio chwilio am Saguenay a sefydlu treflan barhaol yng Nghanada er mwyn cadarnháu hawl Ffrainc i'r diriogaeth yn erbyn hawliau Sbaen. Daeth Jean-François de la Rocque de Roberval ar ei ôl ef er mwyn sefydlu'r dreflan. Methodd â theithio'n bellach na Hochelaga, ond sefydlwyd treflan Charlesbourg-Royal (ar safle tref Cap-Rouge heddiw) ar lannau'r St Lawrence. Daeth y berthynas rhwng y Ffrancod a'r Iroquoiaid yn elyniaethus. Ar ôl gaeaf caled yng Nghanada, pryd bu farw llawer o'r gwladychwyr Ffrengig mewn ymosodiadau gan yr Iroquoiaid, dychwelodd i Ffrainc, gan adael Roberval yno i ddatblygu'r dreflan. Goroesodd Charlesbourg-Royal am flwyddyn arall tan i Roberval gefnu arni flwyddyn yn ddiweddarach. Doedd dim ceisiadau eraill i sefydlu treflannau Ewropeaidd parhaol yng ngogledd America am fwy na hanner can mlynedd. Ni ddaeth Cartier yn ôl i Ganada drachefn, ond bu'n treulio gweddill ei oes yn nhref ei febyd, Sant Maloù.