Pont Rhedynfre

pont garreg rhestredig Gradd I yn Holt

Mae Pont Rhedynfre (Saesneg: Farndon Bridge) yn strwythur Gradd 1 sy'n croesi Afon Dyfrdwy ac sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r ochr sydd yng Nghymru ym mhentref Holt a'r ochr yn Lloegr ym mhentref Rhedynfre, Swydd Gaer (cyfeiriad grid SJ412544). Cofrestrwyd y bont yn Radd 1 ar 1 Mawrth 1967 yn y National Heritage List for England (Rhif Cofrestru: 1279428) ac mae hefyd yn 'Heneb Rhestredig (Ancient Monument).[1] Daeth y tollborth yma i ben yn 1866. Yn ôl traddodiad bu yma frwydr waedlyd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Pont Rhedynfre
Mathpont fwa, pont garreg, pont ffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1339 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhedynfre, Holt Edit this on Wikidata
SirHolt, Rhedynfre Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr6.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0834°N 2.8798°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ4117354412 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcarreg Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwDE024 Edit this on Wikidata

Gwnaed gwaith cynnal a chadw sylweddol yn y 1990au cynnar ac ar yr un pryd cafwyd archwiliad archaeolegol.[2]

Codi'r bont

golygu

Codwyd y bont yn 1345[1] gan fynachod Abaty Sant Werburgh, Caer. Yn wreiddiol roedd gan y bont ddeg bwa, gyda thŵr amddiffynnol ar y pumed, ond cafodd ei ddymchwel yn 1770 a chollwyd dau fwa ar ochr Cymru o'r bont.[3] Mae pump o'r bwau yn y dŵr. Fe'i gwnaed o garreg calchfaen, coch, gyda dim ond lle i un cerbyd ar y tro a cheir system oleuadau traffig i reoli llif y cerbydau.

Tywysogion Cymreig

golygu

Yn ôl traddodiad, boddwyd dau Dywysog Cymreig yn yr afon, meibion Madog ap Gruffudd, a chred rhai fod eu hysbrydion yn dal yno a'u sgrechfeydd i'w clywed heddiw.[4]

Ar farwolaeth Madog, dywedir i'w fechgyn gael eu rhoi yng ngofal John, iarll Warren a Roger Mortimer; cynlluniodd y ddau i ladd y plant er mwyn etifeddu eu cyfoeth. Ar eu taith o Gaer i Langollen honir i'r ddau oedolyn daflu'r bechgyn i'r dŵr a hithau'n aeaf rhewllyd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 historicengland.org.uk; adalwyd 4 Mai 2017.
  2. Royden, Mike, "Farndon-Holt Bridge", Farndon Local History (Mike Royden), http://www.roydenhistory.co.uk/farndon/buildings/bridge/bridge.htm, adalwyd 29 Mawrth 2008
  3. Ward, S. S, "A Survey of Holt-Farndon Medieval Bridge", Cheshire Past (Chester Archaeological Service): pp. 14–15, http://www.roydenhistory.co.uk/farndon/buildings/bridge/cheshirepast1.jpg, adalwyd 29 Mawrth 2008
  4. Holland, Richard (30 Gorffennaf 2009). "BBC - North East Wales - Wrexham's Bridge of Screams". BBC. http://news.bbc.co.uk/local/northeastwales/hi/people_and_places/history/newsid_8176000/8176472.stm. Adalwyd 4 Mai 2017.