Pont ar Wy

pont rhestredig Gradd II yn Nhrefynwy
(Ailgyfeiriad o Pont ar Wysg)

Yn y 14g y codwyd Pont Wy neu Bont ar Wy (Saesneg: Wye Bridge) yn wreiddiol, allan o bren; mae unrhyw gyfeiriad at bont cyn hynny'n cyfeirio at bont arall yn Nhrefynwy: Pont Trefynwy. Rhed yr A466 drosti gan gyfarfod yr A40 gerllaw, ar yr ochr orllewinol. Ailgodwyd y bont allan o garreg rhwng 1615 a 1617 pan godwyd toll ar bawb a'i croesai. Ei gwneuthuriad yw tywodfaen coch ac mae iddi 5 bwa..

Pont ar Wy
Mathpont ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8114°N 2.7099°W Edit this on Wikidata
Hyd71 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Lledwyd y bont rhwng 1878 a 1880 dan ofal y pensaer Edwin Seward o Gaerdydd a cheir plac ar y bont yn cofnodi'r digwyddiad hynny.

Cyfeiriadau

golygu