Pont y Crimea
Pâr o bontydd cyfochrog—un i ffordd bedair lôn ac un i reilffordd ddeudrac—sydd yn rhychwantu Culfor Kerch rhwng Gorynys Taman yng Nghrai Krasnodar, Ffederasiwn Rwsia, a Gorynys Kerch yn y Crimea yw Pont y Crimea (Rwseg: Крымский мост, tr. Krymskiy most, IPA: [ˈkrɨmskʲij most]), a elwir hefyd Pont Culfor Kerch neu Bont Kerch. Codwyd gan lywodraeth Rwsia yn sgil cyfeddiannu'r Crimea, a fu ynghynt yn rhan o Wcráin, ar ddechrau Rhyfel Rwsia ac Wcráin yn 2014, gyda chost o ₽227.92 biliwn (US$3.7 biliwn).[1] Hon yw'r bont hiraf yn Ewrop[2][3][4] a'r bont hiraf a adeiladwyd erioed yn Rwsia,[5] a chanddi hyd o Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value)., gan gynnwys yr heolydd gawsai ar y naill ochr; mae'r bont reilffordd ei hun yn Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value). a'r bont ffordd yn Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value)..[6] Yn ogystal â thrafnidiaeth, nod llywodraeth Rwsia wrth godi'r bont oedd i gryfhau ei hawl i diriogaeth y Crimea.[7][8]
Enghraifft o'r canlynol | pont ffordd, pont reilffordd, truss arch bridge, cross-sea bridge |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2015 |
Lleoliad | Rwsia, Wcráin |
Rhagflaenydd | Kerch Strait ferry line, Kerch railroad bridge |
Rhanbarth | Kerch, Temryuksky District, Rwsia, Wcráin |
Hyd | 16,857.28 metr, 19,000 metr, 18,118.05 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn Ionawr 2015, rhoddwyd y contract i adeiladu'r bont i gwmni Stroygazmontazh, a sefydlwyd gan Arkady Rotenberg. Cychwynnodd y gwaith o godi'r bont ei hun yn Chwefror 2016. Cyhoeddwyd gwblhad y bont ffordd gan yr Arlywydd Vladimir Putin ar 15 Mai 2018, a chafodd ei agor i geir ar 16 Mai ac i lorïau ar 1 Hydref 2018.[9][10] Agorwyd y bont reilffordd yn swyddogol ar 23 Rhagfyr 2019, a chroesodd y siwrnai reolaidd gyntaf i deithwyr ar ei thraws ar 25 Rhagfyr. Agorodd y bont i drenau llwythi ar 30 Mehefin 2020. Ar 15 Awst 2020 cofnodwyd y nifer uchaf o gerbydau i groesi'r bont mewn un diwrnod, cyfanswm o 36,393 o geir.[11]
Fe'i enwyd yn "Bont y Crimea" o ganlyniad i bleidlais ar-lein yn Rhagfyr 2017; "Pont Kerch" oedd yr ail ddewis, ac "Y Bont Ailuno" oedd y trydydd.[12]
Ar 8 Hydref 2022 bu ffrwydrad enfawr ar y ffordd o Rwsia i'r Crimea, gan gychwyn tân ac achosi rhannau o'r bont i gwympo i'r môr.[13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Controversial Russia-Crimea bridge opens". BBC News (yn Saesneg). 2018-05-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2022. Cyrchwyd 2022-10-08.
- ↑ Hodge, Nathan. "Russia's bridge to Crimea: A metaphor for the Putin era". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 August 2022. Cyrchwyd 17 May 2018.
- ↑ "Bridge connects Crimea to Russia, and Putin to a Tsarist dream". South China Morning Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 June 2022. Cyrchwyd 17 May 2018.
- ↑ "Putin inaugurates bridge by driving a truck across to seized peninsula Crimea". ABC News (yn Saesneg). 15 May 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2022. Cyrchwyd 17 May 2018.
- ↑ "Russia pushes back 'Putin's bridge' to annexed Crimea by a year". Reuters (yn Saesneg). 2016-04-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2019. Cyrchwyd 2019-11-28.
- ↑ "Завершено сооружение пролетов Крымского моста под автодорогу". РИА Новости Крым (yn Rwseg). 2017-12-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 December 2019. Cyrchwyd 2019-05-27.
- ↑ Walker, Shaun (31 August 2017). "Russia's bridge link with Crimea moves nearer to completion" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2021. Cyrchwyd 19 September 2018.
- ↑ "Russia Makes Bold Move to Try to Solidify Control Over Crimea". The Daily Signal. 2018-05-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2021. Cyrchwyd 2019-11-28.
- ↑ "Автодорожная часть Крымского моста открылась для движения автомобилей". ТАСС (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 April 2019. Cyrchwyd 16 May 2018.
- ↑ Крымский мост открыли для проезда грузовиков: фото и видео [Crimean Bridge has been opened for truck traffic: photo and video]. 24.ua (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 February 2020. Cyrchwyd 2019-05-27.
- ↑ "На Крымском мосту установили новый рекорд автотрафика". TASS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 October 2022. Cyrchwyd 18 August 2020.
- ↑ "Голосование за название строящегося в Керченском проливе моста завершено". Interfax.ru (yn Rwseg). 17 December 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2019. Cyrchwyd 17 May 2018.
- ↑ Bachega, Hugo; Jackson, Patrick (10 October 2022). "Crimea bridge partly reopens after huge explosion - Russia". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 October 2022. Cyrchwyd 10 October 2022.