Pont nofiol

(Ailgyfeiriad o Pont ysgraffau)

Pont sydd yn defnyddio badau isel neu arnofion eraill i nofio ar y dŵr yw pont nofiol, pont ysgraffau, neu bont gychod. Dibynna cryfder y bont i ddal pwysau ar hynofedd yr hyn sy'n ei chynnal. Hwn yw'r math amlaf o bont filwrol a gynhyrchir dros dro er mwyn cludo milwyr ac offer ar draws afon neu lyn, ond defnyddir pontydd nofiol am resymau eraill hefyd.[1]

Pont gychod yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Badbont ar draws Afon Hafren yn yr Amwythig. Ffotograff gan Geoff Charles (1950).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) pontoon bridge. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bont. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.