Amwythig
Tref yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Amwythig (hefyd Yr Amwythig, ar lafar yn bennaf; hen ffurf: Mwythig; Saesneg: Shrewsbury). Amwythig yw tref sirol a chanolfan weinyddol Swydd Amwythig lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.
| |
![]() | |
Math |
tref sirol, tref farchnad, plwyf sifil ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Awdurdod Unedol Swydd Amwythig, Shrewsbury and Atcham |
Poblogaeth |
71,715 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i |
Zutphen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
37.99 km² ![]() |
Uwch y môr |
71 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Hafren ![]() |
Yn ffinio gyda |
Wem ![]() |
Cyfesurynnau |
52.7081°N 2.7544°W ![]() |
Cod SYG |
E04011358 ![]() |
Cod OS |
SJ491124 ![]() |
HanesGolygu
Awgrymir Amwythig fel safle Pengwern, llys brenhinoedd teyrnas Powys cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i Mercia,[1] ond does dim sicrwydd am hynny.
Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cipiwyd Amwythig gan Lywelyn Fawr yn 1215, ac eto yn 1234.
Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.
Mae'r dref yn enwog am ei hysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.
Cysylltiadau CymreigGolygu
Y wasg Gymraeg yn AmwythigGolygu
Symudodd Thomas Jones (1648 - 1713) yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua 70 o flynyddoedd ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).
Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).
EnwogionGolygu
- Rhisiart, dug Efrog (1473-?1483)
- Syr Humphrey Mackworth (1657–1727), uchelwr
- Frederick Oakeley (1802-1880), canon ac awdur
- Charles Darwin (1809-1882), naturiaethwr
- Emyr Estyn Evans (1905-1989), archeolegydd
- Malcolm Pryce (g. 1960), nofelydd
OrielGolygu
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU. (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Penbedw) Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII. Ebrill 1895. Tudalennau 81-85.)
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) "Gwlad Darwin" - Gwasanaeth Amgueddfeydd Amwythig
- (Saesneg) Cyngor Bwrdeistref Amwythig & Atcham
- (Saesneg) Gwybodaeth i ymwelwyr
Anchor · Amwythig · Argoed · Betws-y-Crwyn · Brŵm · Caerwrygion · Cefn Einion · Church Stretton · Clun · Cockshutt · Craven Arms · Croesau Bach · Croesoswallt · Donnington · English Frankton · Llanfair Waterdine · Llanfarthin · Llanffynhonwen · Llanyblodwel · Llawnt · Llwydlo · Llynclys · Melverley · Morda · Nant-y-Gollen · Nantmawr · Newport · Porth-y-waen · Rhydycroesau · Selattyn · Snailbeach · Telford · Treflach · Trefonen · Uppington · Wellington · Welshampton · Welsh Frankton · Yr Eglwys Wen