Pop Idol
Cyfres deledu o'r Deyrnas Unedig oedd Pop Idol a ddarlledwyd ar ITV rhwng 2001 a 2003. Sioe dalentau oedd y rhaglen a oedd yn penderfynu ar ganwr neu gantores orau (neu'r 'pop idol') y Deyrnas Unedig. Seiliwyd y penderfyniad ar bleidleisiau'r cyhoedd.
Pop Idol | |
---|---|
Genre | Teledu realiti |
Crëwyd gan | Simon Fuller |
Datblygwyd gan | Nigel Lythgoe |
Cyflwynwyd gan | Ant & Dec (ITV) Kate Thornton (ITV2) |
Beirniaid | Nicki Chapman Simon Cowell Neil Fox Pete Waterman |
Cyfansoddwr/wyr | Cathy Dennis Julian Gingell Barry Stone |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o gyfresi | 2 |
Nifer o benodau | 46 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol | Simon Fuller Nigel Lythgoe Richard Holloway Ken Warwick |
Lleoliad(au) | Amryw ddinasoedd (clyweliadau) Theatr Criterion (rhagbrofion theatr) Stiwdios Teddington (rhagbrofion) The Fountain Studios (ffeinal byw) |
Hyd y rhaglen | 60-165mins (yn cynnwys hysbys) |
Cwmni cynhyrchu | Thames Television 19 Entertainment |
Dosbarthwr | FremantleMedia |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | ITV |
Fformat y llun | 16:9 |
Darlledwyd yn wreiddiol | 6 Hydref 2001 | – 20 Rhagfyr 2003
Dolenni allanol | |
Gwefan |
Roedd y gyfres yn gyfrifol am lansio gyrfa sawl artist: Will Young (enillydd y gyfres gyntaf), Gareth Gates, Darius Campbell (Danesh gynt), Jessica Garlick; a Mark Rhodes, Sam Nixon o'r ail gyfres, ymysg eraill.
Daeth y gyfres i ben yng ngwledydd Prydain wrth i Simon Cowell lansio fformat newydd The X Factor ond mae'r fformat 'Idol' wedi ei werthu i sawl gwlad o gwmpas y byd. Bu'n llwyddiannus iawn yn yr Unol Daleithiau - roedd 15 gyfres o American Idol rhwng 2002 a 2016.