Port Glasgow
Tref yn Inverclyde, yr Alban, ydy Port Glasgow[1] (Gaeleg yr Alban: Port Ghlaschu).[2] Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 15,410.[3]
Math | tref, porthladd, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 14,620 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Inverclyde |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 4.75 km² |
Cyfesurynnau | 55.94°N 4.69°W |
Cod SYG | S19000054 |
Cod OS | NS321746 |
Cod post | PA14 |
Mae Caerdydd 505.3 km i ffwrdd o Port Glasgow ac mae Llundain yn 576.5 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 28.4 km i ffwrdd.
Pentrefan pysgota o'r enw "Newark" oedd Port Glasgow yn wreiddiol, ond ym 1668 daeth yn borthladd i Glasgow pan nad oedd llongau mawr yn gallu llywio Afon Clud bas a throellog i'r ddinas. Fe'i gelwid yn "New Port Glasgow", a fyrhawyd i "Port Glasgow" ym 1775. Roedd Port Glasgow yn gartref i ddociau sych ac adeiladu llongau gan ddechrau ym 1762.
Tyfodd y dref o amgylch ei hardal ganolog bresennol ac mae llawer o adeiladau hanesyddol y dref i'w cael yma. Ehangodd i fyny'r bryniau serth o'i chwmpas i gaeau agored i ffurfio ardaloedd preswyl newyddach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 26 Medi 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-08-04 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 26 Medi 2019
- ↑ City Population; adalwyd 26 Medi 2019