Dinas yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon a phrif ddinas Swydd Waterford yw Port Láirge[1] (Saesneg: Waterford). Hi yw pumed dinas Gweriniaeth Iwerddon o ran maint, gyda phoblogaeth o 49,240 yn 2006.

Port Láirge
ArwyddairUrbs Intacta Manet Waterfordia Edit this on Wikidata
Mathdinas, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Poblogaeth48,369 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirSwydd Waterford Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd41.58 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2583°N 7.119°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredoloffice of the Mayor of Waterford Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethollegislative body of Waterford City and County Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Waterford Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y ddinas gan y Llychlynwyr yn 914; daw'r enw Saesneg o'r enw Llychlynnaidd Veðrafjǫrðr. Saif ar Afon Suir, ac mae wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Yn y 19g roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig, ond mae'r ddinas yn fwyaf adnabyddus am ei gwydr; mae Waterford Crystal yn adnabyddus trwy'r byd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022