Porth Stinan

bae ar arfordir Penfro

Bae gyferbyn ag Ynys Dewi, ar arfordir gorllewinol eithaf Sir Benfro yw Porth Stinan (Saesneg: St Justinian's) sydd heddiw'n nodedig am ei orsaf badau achub ac am hen eglwys Sant Stinan. Fe'i lleolir o fewn cymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, tua 2 km i'r gorllewin o ddinas Tyddewi ei hun.

Porth Stinan
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTyddewi a Chlos y Gadeirlan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.88°N 5.31°W Edit this on Wikidata
Map
Yr hen gapel

Uwch yr hafan a'r môr saif hen Gapel Stinan, a godwyd yn wreiddiol gan yr Esgob Edward Vaughan tua 1515 ar hen safle cynharach a godwyd, mae'n debyg, gan Sant Stinan ei hun c. 6g. Dywedir i glychau'r eglwys gael eu dwyn, a'u cludo ar long a suddodd maes o law; dywedir hefyd y gellir clywed y clychau pan fo'r môr yn stormus.[1] Mae'r adeilad o bwysigrwydd mawr ac wedi'i gofrestru'n Gradd I.[2][3]

Ym Mhorth Stinan, hefyd, mae Gorsaf Bad achub Tyddewi, a sefydlwyd yn 1868, ond ni chodwyd yr adeilad tan 1912. Ceir 3 glanfa. Mae'r môr rhwng Porth Stinan ac Ynys Dewi yn hynod beryglus, a cheir ynysoedd o greigiau'n agos at y wyneb. Hyd at y 2000au credir yr achubwyd dros 200 o bobl gan y badau achub yma. Mae'r hen orsaf, o'r 1870au wedi'i gofrestru'n Radd II[4][5][6][7] Yma ym mae Porth Stinan, hefyd, mae glanfa'r cychod sy'n cludo ymwelwyr i Ynys Dewi drwy fisoedd yr haf - hyd at 40 y dydd.

Ceir yma hefyd Dŵr Gwylio[8][9] a Ffynnon Stinan[10][11] ill dau yn Radd II. Gwarchodfa natur Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yw Ynys Dewi a dim ond 40 o bobl y dydd gaif droedio'r ynys. Gerllaw, mae Lwybr Arfordirol Sir Benfro yn troelli ar y clogwyni garw, ac mae lle i barcio ceir neu feics gerllaw.[12]

Y sant golygu

Credir mai person o Lydaw oedd Stinan, ac unig ffynhonnell ei hanes yw buchedd gan John o Teignmouth a drawsysgrifiodd o o lawysgrif gynharach, nad yw bellach ar gael.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gorllewin Penfro gan Eirwyn George; Gwasg Carreg Gwalch (2002).
  2. Cadw. "Ruins of St Justinian's Chapel  (Gradd I) (12692)". Cadw. Cyrchwyd 8 Mehefin 2020.
  3. "Ruins of St.justinian's Chapel,porthstinian/ St.justinian's, St David's and the Cathedral Close". British Listed Buildings. Cyrchwyd 24 Ebrill 2014.
  4. "Old Lifeboat House,porthstinian/St.justinian's, St David's and the Cathedral Close". British Listed Buildings. Cyrchwyd 24 April 2014.
  5. Cadw. "Old Lifeboat House,porthstinian/St.justinian's  (Gradd II) (12692)". Cadw. Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  6. "Lifeboat House,porthstinian/St.justinian's, St David's and the Cathedral Close". British Listed Buildings. Cyrchwyd 24 April 2014.
  7. Cadw. "Lifeboat House,porthstinian/St.justinian's  (Gradd II) (12695)". Cadw. Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  8. "Watch Tower to Nw.of St.justinian's, Porthstinian/St.justinian's, St David's and the Cathedral Close". British Listed Buildings. Cyrchwyd 24 April 2014.
  9. Cadw. "Watch Tower to Nw.of St.justinian's, Porthstinian/St.justinian's  (Gradd II) (12694)". Cadw. Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  10. "British Listed Buildings: St Justinian's Well". Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  11. Cadw. "St Justinian's Well  (Gradd II) (12693)". Cadw. Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  12. Gwefan llwybr yr arfordir
  13. Emanuel, H. D., (1953). STINAN (S. Justinian), sant (fl. yn y 6g). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd 24 Meh 2021, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JUST-SAI-0550