Porthgadw diwylliannol

Porthgadw[1] diwylliannol (Saesneg: Cultural gatekeeping) yw'r weithred o reoli, ac fel arfer cyfyngu, mynediad i grŵp arall o bobol ar sail arferion neu gefndir diwylliannol.[2]

Mae’n gallu cael ei weld fel ffordd o amddiffyn diwylliant rhag pobl o'r tu allan, ond hefyd ei weld hefyd fel ffordd o barhau ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu. [3]

Nid yw porthgadw diwylliannol bob amser yn fwriadol. Yn aml mae'n gallu bod yn ganlyniad i ragfarn anymwybodol neu fwriadau da. Er enghraifft - cydymffurfio â normau neu safonau mae un grŵp yn eu hystyried yn arfer cyffredin neu orau.

Gall porthgadw diwylliannol fod ar sawl ffurf, megis:

  • Gwadu mynediad i bobl i sefydliadau diwylliannol
  • Ei gwneud yn anodd i bobl ddysgu am arferion diwylliannol neu gymryd rhan
  • Defnyddio iaith neu symbolau sy'n unigryw i ddiwylliant penodol
  • Atgyfnerthu stereoteipiau am ddiwylliannau penodol.

Er enghraifft mae’r modd mae diwydiant ffilmiau Hollywood yn seilio eu cynnyrch i apelio i’r gynulleidfa ehangach posibl ond fel canlyniad yn peidio cynnwys amrywiaeth ddiwylliannol neu ethnig wedi cael ei alw’n borthgadw.[4]

Mae’r term hefyd wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut mae merched yn gallu cael eu heithrio o gyfleoedd ym meysydd fel gwyddoniaeth neu dechnoleg.[5]

Mae’r arferiad o ddisgwyl neu fynnu fersiwn neu safon iaith benodol hefyd yn gallu cael ei gyfrif fel porthgadw diwylliannol. (Gweler: Purdeb ieithyddol)[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "gatekeeping". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2023-04-03.
  2. Janssen, Susanne & Verboord, Marc. (2015). Cultural Mediators and Gatekeepers. International Encyclopedia of the Social & Behavioral Sciences. 10.1016/B978-0-08-097086-8.10424-6.https://www.researchgate.net/publication/304188686_Cultural_Mediators_and_Gatekeepers
  3. Rights experts hear how ‘racialized gatekeeping’ impacts development in France. https://www.europeantimes.news/2021/12/1108792/
  4. Erigha, Maryann: Racial Valuation: Cultural Gatekeepers, Race, Risk, and Institutional Expectations of Success and Failure, 2020. https://doi.org/10.1093/socpro/spaa006
  5. Cultural stereotypes as gatekeepers: increasing girls’ interest in computer science and engineering by diversifying stereotypes. Awduron: Sapna Cheryan, Allison Master ac Andrew N. Meltzoff. 2015. https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fpsyg.2015.00049/full
  6. Prescriptive and descriptive linguistics. https://www.ling.upenn.edu/courses/ling001/prescription.html Archifwyd 2023-03-25 yn y Peiriant Wayback