Praesepe (clwstwr sêr)

Clwstwr sêr agored yw'r Prasepe (sef Lladin am y Preseb) yng nghytser Cancer yn yr awyr nos, a adnabyddir hefyd fel Messier 44 (M44), NGC 2632 a'r Cwch Gwenyn. Fel clwstwr sêr eithaf agos at y Ddaear, mae'n hawdd i weld gyda'r llygad noeth o leoedd tywyll, a mae'n bosib gweld nifer o sêr gyda binocwlar neu telesgop bach.[1][2][3]

Clwstwr sêr y Praesepe, neu Messier 44, hefyd y Cwch Gwenyn, ychydig i'r dde o'r canol
Delwedd o'r Praesepe yng ngolau is-goch o'r Arolwg 2MASS

Ffynonellau

golygu
  1. Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 1. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23567-X. Tud. 345–349. (Yn Saesneg.)
  2. "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 25 Hydref 2016. (Yn Saesneg.) Chwiliad am y Praesepe yn adnodd Simbad.
  3. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. Tudalen 204.
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.