Ymbelydredd electromagnetig ydyw golau is-goch (neu IR, sef infrared yn Saesneg) gyda thonfedd hirach na golau gweledol. Coch ydy'r lliw gweledol sydd â'r donfedd hiraf. Mae ei donfedd rhwng 750 nm ac 1 mm. Darganfuwyd y math hwn o ymbelydredd gan William Herschel, wrth iddo fesur tymheredd golau'r haul trwy prism.

Is-goch
Dau berson mewn llun lliw-ffug, a wnaed drwy ddefnyddio golau "thermal" is-goch.
Mathymbelydredd electromagnetig Edit this on Wikidata
Rhan osbectrwm electromagnetig Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gansbectrwm gweladwy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
William Herschel

Defnyddir lluniau is-goch yn helaeth, yn enwedig gan fyddinoedd y byd. Fe'i defnyddir i weld yn y nos, radio pellter byr, i ganfod tymheredd o bell, i gynhesu'r corff mewn sauna isgoch ac mewn seryddiaeth i ganfod tymheredd planedau a gwrthrychau eraill megis cymylau moleciwlar.