Y prif wreiddyn (Saesneg, taproot) yw'r gwreiddyn sy'n tyfu'n fertigol, yn syth i lawr o'r planhigyn. Mae'n ffurfio'r canol o le y bydd gwreiddiau eraill yn ymasagaru. Ceir y prif wreiddyn yn nodweddiadol mewn tri ffurf; y gwreiddyn corn (conig); gwreiddyn gwerthydaidd (fusiform); a'r gwreiddyn napiform.

Ceir dau fath o system wreiddiau mewn planhigion: system fibrios (A) a'u gwreiddiau o'r un maint a'r system 'prif wreiddyn' (B) sy'n tyfu prif wraidd gyda gwreiddiau eraill, llai yn canghennu oddi wrtho.
Darlun yn dangos prif wreiddyn

Prif wreiddyn cyffredin

golygu

Ceir rhai planhigion bwytadwy sydd wedi'u ffurfio o'r prif wreiddyn. Yn eu mysg mae'r foronen, y panasen, y rhuddygl, a'r Erfinen wyllt.

Ceir prif wreiddyn yn amlwg mewn planhigion eraill fel Dant y llew a'r Cyngaf mawr.

Mae planhigion sydd â phrif wreiddyn yn anodd i'w symud. Mae system y prif wreiddyn yn cyferbynu gyda system gwreiddiau fibrilar, sydd â rhwydwaith o wahanol wreiddiau. Bydd y rhan fwyaf o goed yn dechrau eu hoes gyda phrif wreiddyn, ond wedi rhai blynyddoedd bydd system o wreiddiau fibrous yn datblygu o'r canol. Daeth sawl prif wreiddyn yn bryf organ y planhigyn.

Defnydd o'r prif wreiddyn mewn tir crin

golygu

Bydd rhai amaethwyr ecolegol, megis Pieter Hoff yn gwneud defnydd o nerth a gallu'r prif wreiddyn i dyrchu'n ddwfn i'r ddaear, hyd yn oed mewn tir diffrwyth, er mwyn canfod a thorsglwyddo dŵr a maeth i dyfu'r planhigyn. Gyda'i gwmni Groasis Waterboxx mae Hoff yn argymell i bobl sy'n planu planhigyn neu goeden i docio gwreiddiau system fibrios er mwyn hyrwyddo'r prif wraidd i weithio'n galetach a thyfu'n is ac yn gynt i lawr i'r ddaear i ganfod maeth a dŵr a diogelu rhag sychder neu newidiadau mawr mewn tymheredd uwch ben y pridd.[1][2]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu