Pieter Hoff

dyfeisydd o’r Iseldiroedd

Dyfeisiwr, ymgyrchydd ecolegol, cyn-dyfwr a masnachwr blodau oedd Pieter Hoff (hefyd Petrus Hoff; 195313 Ebrill 2021). Roedd yn sefydlydd a chyfarwyddwr y cwmni Groasis Waterboxx. Mewn profion dros tair mlynedd ar y Waterboxx ym Mhrifysgol Mohamed Premier yn Moroco goroesodd bron 90% o'r planhigion gyda'r bocs o'i cymharu â 10% a blanwyd heb y bocs.[1]

Pieter Hoff
Ganwyd1953 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Mae Pieter Hoff yn frodor o'r Iseldiroedd ac yn gyn-allforwr blodau.[2]. Sefydlwyd ei gwmni blodau gan ei daid yn 1923 ond gwerthodd y cwmni er mwyn bwrw ymlaen gyda'i fenter Groasis Waterboxx.[3] Dyfeisiodd y Groasis Waterboxx er mwyn galluogi coed i dyfu heb dyfrio ychwanegol mewn sychdiroedd ac anialwch.

Plannu coed i adfer tir diffaith

golygu

Nododd Pieter Hoff bod dyn wedi cael gwared ar 5 biliwn erw o goed yn y ddwy fil o flynyddoedd ddiwethaf a bod hyn wedi niweidio'r tir. Cred bod ail-goedwigo yn ateb sawl her fawr: ymladd yn erbyn erydiad y tir; cynorthwyo i ymladd yn erbyn newid hinsawdd; cynhyrchu bwyd; creu gwaith. A hynny mewn modd hunangynhaliol.[4]

Y Groasis Waterboxx

golygu

Yn 2003 dyfeisiodd Hoff y Groasis Waterboxx sy'n ddeorydd coed (neu unrhyw fath o blanhigyn) nad sydd angen dyfrio cyson wedi i'r dyfais gael ei ddodi mewn lle gyda chyflenwad cychwynnol o ddŵr (mae caead y ddyfais yn sianelu dŵr gwlith i'r planhigyn).[5] Gan ddefnyddio'r waterboxx a hefyd sbarduno'r prif wreiddyn i dyfu yn fertigol a chanfod dŵr yn ddwfn yn y pridd, mae'r ddyfais yn galluogi planu coed mewn sychdiroedd ac anialwch. Mae Hoff hefyd yn nodi pwysigrwydd peidio niweidio system capilari y pridd sydd yn ffynhonellu neu'n sianelu dŵr, maeth ac ocsigen i'r gwreiddiau. Bwriad y ddyfais yw ail-ffrwythlonni 70% o dir crin a lled-crin y byd sydd wedi eu niweidio drwy ddad-goedwigo a gor-bori neu gor-amaethu.[5]

Anrhydeddau

golygu

Mae Pieter Hoff a'i gwmni wedi ennill nifer fawr o wobrau ac anrhydeddau am ei waith a'i ddyfais.[6]

  • 2010 - Best of Whats New 2010 gan gylchgrawn Popular Science gan guro 116 cynhyrchion eraill fel iPad cwmni Apple a'r Porsche 918 Spyder hybrid supercar a chwmnïau eraill ar y Fortune 500
  • 2015 - Best New Product for Gulf Market – Agriculture Award
  • 2016 - National Icons - organized by the Ministry of Economic Affairs gan Lywodraeth yr Iseldiroedd
  • 2018 - Gwobr Siambr Fasnach yr Iseldiroedd am greu dyfeisiadau newydd

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu