Prifysgol Fetropolitan Abertawe

Prifysgol oedd wedi ei leoli ar ddwy gampws yn Abertawe, Cymru oedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Saesneg: Swansea Metropolitan University). Mae'r prifysgol bellach yn rhan o Prifysgol Cymru y Trindod Dewi Sant.[1]

Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Mathprifysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1853 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Edit this on Wikidata
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Hanes golygu

Ffurfiwyd y Brifysgol fel Athrofa Addysg Uwch Abertawe ym 1992, pan dderbyniodd statws fel Corfforaeth Addysg Uwch annibynnol. Cyn hynny, fe'i adwaenir fel Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, a gafodd ei sefydlu ym mis Medi 1976 wrth i dri coleg uno. Y colegau hynny oedd Coleg Celf Abertawe, Coleg Addysg Abertawe (coleg hyfforddi athrawon) a Choleg Technoleg Abertawe.

Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddwyd fod y Cyfrin Gyngor wedi rhoi statws prifysgol i'r sefydliad, gan gytuno ar ei enw, gan ei wneud yn un o brifysgolion mwyaf newydd yng ngwledydd Prydain.

Arferai'r Athrofa fod yn aelod llawn o Brifysgol Cymru ond yn dilyn newidiadau strwythurol yn y Brifysgol ym mis Medi 2007, mae bellach yn sefydliad achrededig. Mae'n ganolfan cymwys ar gyfer rhaglenni BTEC Cenedlaethol Uwch ac NVQ.

Mae cyrsiau astudio Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn cynnwys ystod o gyfleoedd gyrfaol. Nodweddion ei holl gyrsiau yw gallu defnyddio gwybodaeth mewn sefyllfaoedd go-iawn, boed yn yr ystafell ddosbarth, labordy neu'r gweithdy.

Llety myfyrwyr golygu

Mae gan y Brifysgol nifer o neuaddau preswyl ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys:

  • Townhill (265 ystafell)
  • Neuadd Gwyr (69 ystafell)
  • Neuadd Dyfed (99 ystafell)
  • Neuadd Cenydd (97 ystafell)
  • Mount Pleasant (6 ystafell dau wely a 37 ystafell sengl)

Bwriada'r brifysgol newid yr hen lyfrgell i lety myfyrwyr ac mae cynlluniau i adeiladu mwy o lety ger Afon Tawe yn yr Hafod.[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu