Prifysgol Islamaidd Gaza

Prifysgol annibynnol yng Mhalesteina yw Prifysgol Islamaidd Gaza (Arabeg: الجامعة الإسلامية بغزة‎) a leolir yn Ninas Gaza, dinas fwyaf Llain Gaza. Rhennir y brifysgol yn 11 o gyfadrannau sy'n cynnig graddau baglor, graddau meistr, doethuriaethau, diplomâu, ac uwchddiplomâu, yn ogystal ag 20 o ganolfannau ymchwil. Yn ogystal â'r prif gampws yn Ninas Gaza, lleolir dau gampws arall yng nghanol Llain Gaza (ynghyd â'r Ysbyty Cyfeillgarwch Tyrcaidd-Palesteinaidd) ac yn neheubarth y llain.[1]

Prifysgol Islamaidd Gaza
Adeilad Luhaidan ar gampws y brifysgol (2012).
MathIslamic university, cyhoeddwr mynediad agored Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1978 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwladwriaeth Palesteina Gwladwriaeth Palesteina
Cyfesurynnau31.513119°N 34.440461°E Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd ym 1978, a'r hon oedd y sefydliad addysg uwch cyntaf yn Llain Gaza.[1] Mae Prifysgol Islamaidd Gaza yn aelod o 12 o gymdeithasau a rhwydweithiau rhyngwladol o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol y Prifysgolion (IAU), Undeb Prifysgolion y Môr Canoldir (UNIMED), Cymdeithas y Prifysgolion Arabaidd (AAU), Ffederasiwn Prifysgolion y Byd Islamaidd (FUIW), Rhwydwaith Academaidd y Môr Du a Dwyrain y Môr Canoldir (BSEMAN), a'r Rhwydwaith Prifysgolion Byd-eang dros Newyddiannu (GUNi).

Difrodwyd adeiladau'r brifysgol yn sylweddol gan gyrchoedd awyr Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn ystod ymosodiadau ar Lain Gaza yn 2008,[2] 2014,[3] a 2023.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Islamic University of Gaza", Times Higher Education. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Hydref 2023.
  2. (Saesneg) "Israeli Airstrikes in Gaza Destroy 2 University Buildings", The Chronicle of Higher Education (29 Rhagfyr 2008). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mawrth 2023.
  3. (Saesneg) "Israel strikes university in Gaza City", Al Jazeera (2 Awst 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Hydref 2023.
  4. (Saesneg) Brendan O'Malley ac Wagdy Sawahel, "Israel bombs Gaza university, alleging use by military", University World News (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Hydref 2023.