Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014
Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: "Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn"; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd[9][10][11] (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu.[12][13] Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").
Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o: Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd | |||||||
Ymosodiad gan fyddin Israel ar gartrefi yn ninas Gasa |
|||||||
|
|||||||
Rhyfelwyr | |||||||
Israel Arfau: Unol Daleithiau America[1][2] | Mudiadau Palesteinaidd | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Benjamin Netanyahu Prif Weinidog Israel Moshe Ya'alon Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel) | Ismail Haniyeh Mohammed Deif (Arweinydd brigâd Izz ad-Din al-Qassam) Ramadan Shalah (Arweinydd y PIJ) |
||||||
Unedau a oedd yn weithredol | |||||||
Llu Amddiffyn Israel Awyrlu Israel Llynges Israel Shin Bet | Asgell arfog Hamas | ||||||
Cryfder | |||||||
176,500 milwr[3] | Tua 10,000 o Balesteiniaid arfog[5][6] | ||||||
Clwyfwyd neu laddwyd | |||||||
64 milwr; 6 sifiliad (oedolion)[7] 400 milwr 23 sifiliad wedi'u hanafu | 2,145 wedi eu lladd (1,462 yn sifiliaid)[8] (ffynhonnell: Canolfan Iawnderau Palesteina) |
Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol.[14] Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.[15]
Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel.[16] Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.
Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957.[17] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.
Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".[18]
Rhai digwyddiadau yn nhrefn amser
golygu- 13 Taniodd Israel 1,300 o rocedi i'r Llain Gaza, y rhan fwyaf gan awyrennau isel a thaniwyd 800 roced o'r Llain i gyfeiriad Israel.
- 16 Gorffennaf: Cyflwynodd Hamas a'r Mudiad Jihad Islamaidd ym Mhalesteina gadoediad 10-mlynedd gyda deg prif feincnod.[19]
- 17 Gorffennaf: yn ystod y bore bach, cytunodd y ddwy ochr i argymhelliad y Cenhedloedd Unedig o gadoediad am bum awr[20][21] a digwyddodd hyn rhwng 10yb a 3.00yp.[22] Am 10.30yh cyhoeddodd yr orsaf deledu IDF fod milwyr traed byddin Israel wedi mynd i mewn i Lain Gaza[23] a chadarnhawyd hyn gan Ysgrifennydd Amddiffyn Israel, Moshe Ya'alon.[24] Mynegodd yr Aifft mai bai Hamas oedd hyn gan iddynt dorri'r cadoediad.[25] Yn ogystal â milwyr traed ceir tystiolaeth o danciau'n saethu at Ysbyty yn Gasa.[26][27]
- 20 Gorffennaf: byddin Israel yn brwydro eu ffordd i mewn i ran o ddinas Gaza (maestref Shuja'iyya).
- 24 Gorffennaf: 10,000 - 15,000 o Balesteiniaid yn y Lan Orllewinol yn protestio yn erbyn triniaeth eu cydwladwyr Palesteinaidd yn Gaza. Lladdwyd 2 ohonynt ac anafwyd 265 o Balesteiniaid.[28][29][30]
- 26 Gorffennaf: cadoediad am 12 awr,[31] ac yna 24 awr arall yn dilyn hynny.[32]
- 28 Gorffennaf: Y Pab Ffransis yn galw ar y ddwy ochr i ymatal, gan ddweud "I think of the children who are robbed of the hope of a dignified life, of a future. Dead children, wounded children, orphans, children who have for toys the debris of war." Ar y diwrnod y dywedodd hyn, amcangyfrifir bod 251 o blant Palesteinaidd wedi'u lladd, a dim un plentyn Israelaidd.[33]
- 5 Awst: Tanciau a milwyr Israel yn gadael y Llain; tridiau o gadoediad yn cael ei gyhoeddi. Hyn yn cael ei ymestyn.
Ymateb
golyguGwledydd eraill
golyguMae'r ymateb o du gwledydd eraill yn amrywio o'r naill begwn i'r llall. Er enghraifft ar 9 Gorffennaf 2014, ffoniodd Canghellor yr Almaen Angela Merkel Benjamin Netanyahu i gollfarnu "without reservation rocket fire on Israel".[34] Ymateb Gweinidog Materion Tramor Iwerddon drwy ddweud, "(We are) gravely concerned at the escalating violence and civilian casualties" a'i fod yn collfarnu'r ddwy ochr yn gyfartal ac apeliodd am gadoediad."[35] Condemniodd Llywodraeth Pacistan (ar 9 Gorffennaf) y trais a'r lladd yn Gasa a achoswyd gan ffyrnigrwydd Israel.[36]
Ymddiswyddodd Baronness Warsi fel Gweinidog gan ddweud na fedrai gytuno â Pholisi Llywodraeth Prydain ac, “It appals me that the British government continues to allow the sale of weapons to a country, Israel, that has killed almost 2,000 people, including hundreds of kids, in the past four weeks alone. The arms exports to Israel must stop.” Ymatebodd y Prif Weinidog David Cameron drwy ddweud, “I understand your strength of feeling on the current crisis in the Middle East – the situation in Gaza is intolerable.”.[37]
Mudiadau rhyngwladol
golygu- Human Rights Watch: "Palestinian rocket attacks on Israel appear to be indiscriminate or targeted at civilian population centers, which are war crimes, while Israeli attacks targeting homes may amount to prohibited collective punishment."[38]
Mae sawl mudiad dyngarol e.e. Amnesty Rhyngwladol,[39][40] B'Tselem[41] a Human Rights Watch[42] wedi datgan bod Israel yn gyfrifol am dorri deddfau rhyfel o dan cyfreithiau rhyngwladol dry ladd sifiliaid a dinistrio cartrefi sifiliaid.[43] Mynegodd Uwch Gomisiynydd Hawliau Iawnderau Dynol y Cenhedloedd Unedig hefyd fod yna "bosibilrwydd cryf" bod Israel wedi torri deddfau rhyngwladol "in a manner that could amount to war crimes".[44] Mae'r C.U. hefyd wedi condemnio Hamas o anelu ei rocedi at sifiliaid Israelaidd a chydnabyddodd Navi Pillay,[30] Llysgennad Palesteina yng Nghyngor Hawliau Dynol y C.U. fod Hamas wedi torri deddfau rhyngwladol drwy wneud hyn.[45]
Protestiadau
golyguYmosodwyd ar rai o'r prostestwyr heddychlon fu'n mynychu'r protest yn erbyn y rhyfel yn Tel Aviv gan eithafwyr Israelaidd adain-dde.[46] Ar 21 Gorffennaf caewyd stryd fawr Nazareth yn llwyr wrth i fusnesau a thrigolion y dref uno gyda phrotest cyffredinol yn erbyn ymosodiad pythefnos oed gan Israel ar y Palesteiniaid yn Gaza. Arestiwyd dros 700 o gan heddlu Israel. Cafwyd protestiaidau tebyg drwy Israel.[47]
Cynhaliwyd hefyd sawl protest o blaid Israel yn yr UDA ond roedd mwyafrif helaeth y protestiadau, mewn llawer o wledydd ledled y byd, yn erbyn gweithredoedd Israel gan gynnwys:
Oriel berthnasol
golygu-
Map o Gaza
-
System amddiffynnol Israel, Iron Dome yn atafaelu roced gan adain filwrol Hamas
-
Gweddillion corff plentyn wedi'i fomio gan fyddin yr Israeliaid
-
Cartref y teulu Palesteinaidd Kware, a fomiwyd gan awyrlu Israel 8 Gorffennaf 2014
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "US supplies Israel with bombs amid Gaza blitz". Al Jazeera. 31 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-08. Cyrchwyd 2014-11-25.
- ↑ "US condemns shelling of UN school in Gaza but restocks Israeli ammunition". The Guardian. 31 Gorffennaf 2014.
- ↑ 3.0 3.1 "Israel Military Strength". Globalfirepower.com. 27 March 2014. Cyrchwyd 4 Awst 2014.
- ↑ "IDF chief Gantz asks for call-up of 40,000 reserves amid Operation Protective Edge". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Israel pushes ahead with deadly airstrikes, as Gaza fires more rockets". Al Jazeera. 9 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Operation Protective edge: Israel bombs Gaza in retaliation for rockets", The Guardian, 9 Gorffennaf 2014, http://www.theguardian.com/world/2014/jul/08/operation-protective-edge-israel-bombs-gaza-in-retaliation-for-rockets, adalwyd 2014-07-13
- ↑ "Occupied Palestinian Territory: Gaza Emergency Situation Report" (PDF). United Nations Office for the Coordination of Humanitarian Affairs. 28 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-07-29. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Statistics: Victims of the Israeli Offensive on Gaza since 08 July 2014". Pchrgaza.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
- ↑ Gaza Invasion Is Likely, Israeli Official Says – See more at: http://www.nytimes.com/2014/07/17/world/middleeast/israel-gaza-strip.html?_r=0
- ↑ "UN calls for Israel-Gaza ceasefire". BBC. Gorff. 12, 2014. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2014. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Gaza conflict: Foreign Office urgently investigating reports of British aid worker death Independent, Published August 4th, 2014
- ↑ "Israel agrees to UN request for humanitarian ceasefire". Maan News Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-21. Cyrchwyd 2014-07-16.
- ↑ "JERUSALEM: Death toll of Israel's Gaza campaign hits 114 as U.S. seeks cease-fire | World | The Sun Herald". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-14. Cyrchwyd 2014-07-12.
- ↑ Greenberg, Joel (30 Mehefin 2014), "'Hamas will pay,' Netanyahu vows after bodies of missing Israeli teens are found", Bellingham Herald (McClatchy), http://www.bellinghamherald.com/2014/06/30/3726878/kidnapped-israeli-teens-found.html?sp=/99/101/235/[dolen farw]
- ↑ "For Israel in Gaza, a delicate balancing act". Cyrchwyd 8 JGorffennaf 2014. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Death toll passes 100 as Israel continues Gaza assault | Maan News Agency". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-12. Cyrchwyd 2014-07-12.
- ↑ "20 Palestinians killed overnight as UN holds emergency talks". Middle East Eye. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-22. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Israel/Palestine: Unlawful Israeli Airstrikes Kill Civilians | Human Rights Watch". Hrw.org. 16 July 2014. Cyrchwyd 3 Awst 2014.
- ↑ "Report: Hamas, Islamic Jihad offer 10-year truce". Ma'an News Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-24. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Israel, Hamas agree to 5-hour cease-fire to allow humanitarian aid into Gaza". Fox News. 2006-10-01. Cyrchwyd 2014-07-17.
- ↑ "Turkish report: Hamas agrees to ceasefire – Israel News, Ynetnews ". Ynetnews.com. 1995-06-20. Cyrchwyd 2014-07-17.
- ↑ 16 Gorffennaf 2014 22:49 BST. "Israel Accepts Humanitarian Ceasefire After Deaths of Four Palestinian Children". Ibtimes.co.uk. Cyrchwyd 2014-07-17.
- ↑ http://www.jpost.com/Operation-Protective-Edge/IDF-intensifies-Gaza-attacks-with-artillery-fire-air-strikes-363289
- ↑ "IDF begins ground operation in the Gaza Strip". Ynetnews.com. 2014-07-17. Cyrchwyd 2014-07-17.
- ↑ http://www.jpost.com/Operation-Protective-Edge/Egypt-blames-Hamas-for-IDFs-ground-operation-363300
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-20. Cyrchwyd 2014-07-18.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-19. Cyrchwyd 2014-07-18.
- ↑ "At least 16 killed in attack on Gaza school, sparking massive protests in West Bank", The Washington Post, 24 Gorffennaf 2014; accessed 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ Sherwood, Harriet (25 Gorffennaf 2014). "Teenager killed on his birthday as violence ignites in West Bank". Guardian.
- ↑ 30.0 30.1 "Palestinians killed in West Bank Gaza solidarity march". BBC. 25 July 2014. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Gaza crisis: Humanitarian cease-fire between Israel, Hamas takes effect". Fox News. 26 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Israel extends unilateral cease-fire as Gaza death toll tops 1,000". Cyrchwyd 28 July 2014.
- ↑ "Five Israeli soldiers killed in Gaza; Palestinian death toll hits 1,088". Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ Shamah, David (2014-07-06). "Hamas rockets reach the north, Abbas charges Israel with genocide". The Times of Israel. Cyrchwyd 2014-07-11.
- ↑ "Minister Gilmore condemns violence in Gaza and Israel". IE: DFA. Cyrchwyd 10 July 2014.
- ↑ Desk, Web (2014-07-07). "Pakistan condemns Israeli aggression in Gaza – The Express Tribune". Tribune.com.pk. Cyrchwyd 2014-07-11.
- ↑ Gwefan y Guardian; adalwyd 5 Awst 2014
- ↑ "Palestine/Israel: Indiscriminate Palestinian Rocket Attacks". Jerusalem: Human Rights Watch. 9 July 2014.
- ↑ "http://www.amnesty.org/en/news/israelgaza-conflict-questions-and-answers-2014-07-25". Amnesty International. 25 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-27. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014. External link in
|title=
(help) - ↑ Withnall, Adam (13 Gorffennaf 2014). "Israel-Gaza conflict: Israeli 'knock on roof' missile warning revealed in remarkable video". The Independent. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ "52 Palestinians killed in bombings of homes in Gaza Strip, which are unlawful", B'tselem, 13 Gorffennaf 2014; 22 Gorffennaf 2014.
- ↑ Dorell, Oren (24 Gorffennaf 2014). "Analysis: Human rights or human shields in Gaza war?". USA Today. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ " "U.N. Human Rights Chief Says Israel Might Be Violating International Law", Newsweek, 11 Gorffennaf 2014.
- ↑ "UN's Navi Pillay warns of Israel Gaza 'war crimes'". BBC. 23 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ Tazpit, Aryeh Savir. ""Palestinian diplomat admits Hamas war crimes", Ynet News, 13 Gorffennaf 2014; accessed 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ http://www.newstatesman.com/world-affairs/2014/07/jews-and-arabs-refuse-be-enemies-what-it-s-be-anti-war-israeli
- ↑ Carlstrom, Gregg (21 July 2014). "Businesses strike in Israel over Gaza". Al Jazeera. Cyrchwyd 27 July 2014.
- ↑ South Wales Evening Post; Teitl: Palestine supporters stage Castle Square protest against Israel bombing campaign; adalwyd 13 Gorffennaf 2014
- ↑ Gwefan y BBC; Teitl: Welsh protests over Gaza violence.
- ↑ "Thousands march in cities across Ireland in support of Gaza". The Irish Times. 12 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Protests worldwide condemn Israeli action in Gaza". i24 News. 12 Gorffennaf 2014.
- Timelines of the first Archifwyd 2014-07-20 yn y Peiriant Wayback and second Archifwyd 2014-07-22 yn y Peiriant Wayback phases of operation. Israel Defense Forces. Retrieved 23 July 2014.
- "The Toll in Gaza and Israel, Day by Day". The New York Times. Cyrchwyd 23 July 2014.
- "Operation Protective Edge". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 23 July 2014.
- "Gaza Blog Live". Al Jazeera English. Cyrchwyd 23 July 2014.
- "Gaza-Israel conflict: What is the fighting about?". BBC News Online. Cyrchwyd 23 July 2014.
- "Gaza Crisis". United Nations Office for the Coordination of Humanitarian Affairs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-25. Cyrchwyd 23 July 2014.
- Channel-4 Israel-Gaza crisis 2014 story so far Archifwyd 2014-07-31 yn y Peiriant Wayback