Prifysgol Friedrich Schiller Jena

(Ailgyfeiriad o Prifysgol Jena)

Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Jena yn nhalaith Thüringen, yr Almaen, yw Prifysgol Friedrich Schiller Jena (Almaeneg: Friedrich-Schiller-Universität Jena).

Prifysgol Jena
ArwyddairLIGHT, LIFE, LIBERTY – connecting visions Edit this on Wikidata
Mathprifysgol gyhoeddus, comprehensive university, casgliad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFriedrich Schiller Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1558 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolELIXIR Germany Edit this on Wikidata
LleoliadJena Edit this on Wikidata
SirJena Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau50.9283°N 11.5822°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganJohn Frederick II Edit this on Wikidata

Sefydlwyd academi yn Jena ym 1548, a chafodd ei ddyrchafu'n brifysgol ym 1558[1] dan yr enw Prifysgol Holl Sacsonaidd Ddugol (Herzoglich Sächsische Gesamtuniversität). Hon oedd prifysgol newydd Etholyddiaeth Sachsen, wedi i'r dalaith honno golli Prifysgol Wittenberg i Dŷ Witten yn sgil Rhyfel Schmalkalden. Fe'i gelwid ar lafar yn Brifysgol Jena neu Salana (am ei fod ar lannau Afon Saale). Daeth y brifysgol i'r amlwg yn rhyngwladol yn y 18g, pryd yr oedd athronwyr o fri, gan gynnwys G. W. F. Hegel, Johann Gottlieb Fichte, a Friedrich Schiller, yn addysgu yno. Enwyd y brifysgol ar ôl Schiller ym 1934.

Mae gan y brifysgol adrannau diwinyddiaeth, y gyfraith, meddygaeth, athroniaeth, economeg, mathemateg, cemeg, bioleg, ffiseg a seryddiaeth, seicoleg, addysg, addysg gorfforol, a thechnoleg; ac athrofeydd ieithoedd, astudiaethau clasurol ac hanes meddygaeth a gwyddorau natur, yn ogystal â gardd fotaneg a llysieufa.[2]

Mae'n aelod o Grŵp Coimbra ar gyfer prifysgolion Ewropeaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Hermans, FirstName (2005). Charters of foundation and early documents of the universities of the Coimbra Group (yn Saesneg). Leuven: Gwasg Prifysgol Leuven. t. 58. ISBN 9789058674746.
  2. "Faculties". University of Jena (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Tachwedd 2021.