Friedrich Schiller

bardd, athronydd, hanesydd a dramodydd Almaeneg (1759-1805)

Bardd, dramodydd, hanesydd ac athronydd oedd Johann Christoph Friedrich von Schiller (10 Tachwedd 1759 - 9 Mai 1805).

Friedrich Schiller
GanwydJohann Christoph Friedrich Schiller Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1759 Edit this on Wikidata
Marbach am Neckar Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1805 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Weimar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Württemberg, Saxe-Weimar Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Johann Wolfgang Döbereiner Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, athronydd, hanesydd, llyfrgellydd, meddyg ac awdur, dramodydd, nofelydd, academydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, meddyg, meddyg yn y fyddin, esthetegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Robbers, Don Carlos, Wallenstein, Mary Stuart, Gwilym Tel, Intrigue and Love, On the aesthetic education of man, Die Huldigung der Künste, The Maid of Orleans Edit this on Wikidata
Arddullbaled, drama Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadKarl Leonhard Reinhold, Pedro Calderón de la Barca, Johann Wolfgang von Goethe, Immanuel Kant Edit this on Wikidata
MudiadSturm und Drang, Weimar Classicism Edit this on Wikidata
TadJohann Kaspar Schiller Edit this on Wikidata
MamElisabeth Dorothea Schiller Edit this on Wikidata
PriodCharlotte von Lengefeld Edit this on Wikidata
PlantEmilie von Gleichen-Rußwurm, Ernst von Schiller, Karl Von Schiller, Caroline Junot Edit this on Wikidata
PerthnasauJohann Friedrich Schiller Edit this on Wikidata
llofnod

Magwraeth cynnar golygu

Cafodd ei eni ym Marbach am Neckar, Yr Almaen yn fab i'r meddyg Johann Kaspar Schiller (1733-1796), a'i wraig Elisabeth Dorothea Kodweiß (1732-1802). Fe'i galwyd ar ôl Ffredrig II, brenin Prwsia ond galwyd ef gan bawb yn Fritz.[1] Roedd tad Schiller yn gweithio i'r fyddin Schwäbisch Gmünd a symudodd y teulu ato yn 1763, ar derfyn y rhyfel, i le o'r enw Lorch.[2] Yn Lorch, derbyniodd Schiller addysg cynradd o safon isel, felly, trefnodd ei rieni iddo dderbyn addysg gan offeiriad: mewn Lladin a Groeg. Sgwennodd Schiller am Pastor Moser yn ei ddrama cyntaf: Die Räuber (Y Lladron) Am gyfnod, roedd Schiller yn awyddus i ddilyn ôl traed ei athro a mynd yn offeiriad.[3] Symudodd y teulu i Ludwigsburg.[4] a daeth i sylw Charles Eugene, Dug Württemberg a drefnodd iddo fynd i'r coleg milwrol Karlsschule Stuttgart yn 1773 i astudio meddygaeth. Bu'n ddyn sâl am y rhan fwyaf o'i fywyd a cheisiodd wella'i hyn ar bob achlysur.

 
Portresd o Friedrich Schiller gan Gerhard von Kügelgen

Y sgwennwr golygu

Roedd yn ffrind i'r gŵr dylanwadol Johann Wolfgang von Goethe am 17 mlynedd olaf ei fywyd: rhwng 1788–1805. Roedd y cyfeillgarwch hwn yn un cymhleth, a sbardunodd lawer o drafodaethau am estheteg; gelwir hyn heddiw yn Weimar Classicism. Datblygodd y ddau syniadau eraill hefyd gan gynnwys Xenien, sef casgliad o gerddi byr, athronyddol.

Llyfryddiaeth golygu

Barddoniaeth golygu

  • An die Freude (1785)
  • Das Lied von der Glocke (1798)
  • Die Künstler

Drama golygu

  • Die Räuber (1781)
  • Kabale und Liebe (1784)
  • Don Carlos (1787)
  • Maria Stuart (1800)
  • Die Jungfrau von Orleans (1801)
  • Turandot (1802)
  • Die Braut von Messina (1803)
  • Wilhelm Tell (1804)

Hanes golygu

  • Geschichte des Abfalls der vereinigten Niederlande von der spanischen Regierung
  • Geschichte des dreissigjährigen Kriegs
  • Über Völkerwanderung, Kreuzzüge und Mittelalter

Arall golygu

  • Über die ästhetische Erziehung des Menschen in einer Reihe von Briefen

Cyfeiriadau golygu

  1. Lahnstein 1981, tud. 18.
  2. Lahnstein 1981, tud. 20–1.
  3. Lahnstein 1981, tud. 25.
  4. Lahnstein 1981, tud. 27.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.