Michigan
Mae Michigan yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, a amgylchynir o'r gorllewin i'r dwyrain gan rai o'r Llynnoedd Mawr; Llyn Superior, Llyn Huron, Llyn Michigan, Llyn Erie a Llyn St. Clair. Fe'i hymrennir gan Culfor Mackinac yn ddwy ardal ar wahân: y Gorynys Isaf yn y de (iseldiroedd) a'r Gorynys Uchaf yn y gogledd (islediroedd yn y dwyrain ac ucheldiroedd yn y gorllewin). Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y Gorynys Isaf. Y Ffrancod oedd yr Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r ardal, yn yr 17g, ac arhosodd dan reolaeth Ffrainc hyd 1763 pan y'i cipiwyd gan Brydain Fawr a'i hychwanegu i diriogaeth Canada. Daeth i feddiant yr Unol Daleithiau yn 1783 a daeth yn dalaith yn 1837. Lansing yw'r brifddinas. Tarddia enw'r dalaith o'r addasiad Ffrengig o'r term Ojibwe, "mishigma", sydd golygu "dwr mawr" neu "llyn mawr".
Arwyddair | Pure Michigan |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Y Llynnoedd Mawr |
Prifddinas | Lansing |
Poblogaeth | 10,077,331 |
Sefydlwyd | |
Anthem | My Michigan |
Pennaeth llywodraeth | Gretchen Whitmer |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser Canolog, America/Efrog Newydd, UTC−05:00 |
Gefeilldref/i | Shiga, Saga |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Midwestern United States, taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 250,493 km² |
Uwch y môr | 275 metr |
Gerllaw | Llyn Michigan, Llyn Superior, Llyn Erie, Llyn Huron, Llyn St. Clair, Afon Detroit, Afon St. Clair, Afon St. Marys |
Yn ffinio gyda | Wisconsin, Ohio, Indiana, Ontario, Minnesota, Illinois |
Cyfesurynnau | 44.34°N 85.58°W |
US-MI | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Michigan |
Corff deddfwriaethol | Michigan Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Michigan |
Pennaeth y Llywodraeth | Gretchen Whitmer |
Michigan yw'r wythfed talaith mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddi'r arfordir dwr ffres hiraf o unrhyw îs-adran wleidyddol yn y byd, am ei bod yn ffinio â phedwar o'r Llynnoedd Mawr yn ogystal â Llyn St Clair. Yn 2005, roedd Michigan yn rhif 3 o ran y nifer o gychod adloniannol a oedd wedi'u cofrestru yno, ar ôl Califfornia a Fflorida. Mae gan Michigan 64,980 o lynnoedd mewndirol. Pan fo person yn y dalaith, nid ydynt yn fwy na chwech milltir (10 km) o ffynhonnell o ddwr naturiol, neu'n fwy na 87.2 milltir (137 km) o arfordir y Llynnoedd Mawr.
Michigan yw'r unig dalaith sy'n cynnwys dau benrhyn yn unig. Weithiau, cyfeirir at y Penrhyn Isaf fel "y faneg" oherwydd ei siap. Mae'r Penrhyn Uchaf wedi cael ei wahanu o'r Penrhyn Isaf gan Gulfor Mackinac, sianel pum milltir (8 km) sy'n cyfuno Llyn Huron i Lyn Michigan. Mae'r Penrhyn Uchaf yn bwysig i'r dalaith am resymau economaidd oherwydd y twristiaid a'r adnoddau naturiol sydd yno.
Dinasoedd a bwrdeistrefi pwysig
golyguYn ôl amcangyfrifon cyfrifiad 2007, bwrdeistrefi mwyaf Michigan yw:
Safle | Dinas | Poblogaeth | Delwedd |
---|---|---|---|
1 | Detroit | 916,952 | |
2 | Grand Rapids | 193,627 | |
3 | Warren | 134,223 | |
4 | Sterling Heights | 127,349 | |
5 | Ann Arbor | 115,092 | |
6 | Lansing | 114,947 | |
7 | Flint | 114,662 | |
8 | Maesdref Clinton | 96,253 | |
9 | Livonia | 93,931 | |
10 | Dearborn | 89,252 |
Mae'r dinasoedd pwysig eraill yn cynnwys:
- Battle Creek ("Cereal City U.S.A.", pencadlys rhyngwladol Cwmni Kellogg)
- Benton Harbor / St. Joseph (pencadlys Corfforaeth Whirlpool)
- Dwyrain Lansing (cartref Prifysgol Talaith Michigan)
- Fremont (cartref Gerber Products Company)
- Jackson (pencadlys CMS Energy)
- Kalamazoo (Dinas fwyaf yn ne-orllewin Michigan ac yn gartref i Brifysgol Gorllewin Michigan)
- Manistee (cartref i ffatri halen fwyaf y byd, sy'n eiddo i Morton Salt)
- Marquette (y ddinas fwyaf ym Mhenrhyn Uchaf Michigan gyda 19,661 o bobl ac yn gartref i Brifysgol Gogledd Michigan)
- Midland (pencadlys Cmwni Cemegol Dow a Chorfforaeth Ŷd Dow.)
- Mount Pleasant (cartref Prifysgol Canolog Michigan)
- Muskegon (dinas fwyaf Michigan ar Lyn Michigan)
- Pontiac (canolfan fawr i gynhyrchu ceir, a chartref y Pontiac Silverdome)
- Saginaw (y mwyaf o'r Tri-Cities, sydd hefyd yn cynnwys Bay City a Midland, ac yn gartref i Brifysgol Talaith Dyffryn Saginaw)
- Sault Ste. Marie (cartref y Soo Locks a Phont Rhyngwladol Sault Ste. Marie)
- Dinas Traverse ("Prif ddinas Ceirios y Byd", gan wneud Michigan yn brif gynhyrchydd ceirios yn y wlad)
- Ypsilanti (cartref Prifysgol Dwyrain Michigan)
Lleolir hanner o gymunedau mwyaf cefnog y dalaith yn Swydd Oakland, ychydig i'r gogledd o Detroit. Lleolir cymuned cefnog arall ychydig i'r dwyrain o'r ddinas, yn Grosse Pointe. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi'u lleoli y tu allan i Detroit Fetropolitanaidd. Mae dinas Detroit ei hun, gydag incwm y pen o $14,717, yn 517fed ar y rhestr o leoliadau ym Michigan o ran pres y pen. Benton Harbor yw'r ddinas dlotaf ym Michigan, gyda incwm y pen o $8,965, tra bod Barton Hills y mwyaf cyfoethog gyda phres y pen o $110,683.
-
Nenlinell Detroit ar hyd Afon Detroit
-
Nenlinell Y Grand Rapids yng nghanol yr Afon Grand
-
Machlud haul yn Lansing
-
Nenlinell Ann Arbor fel y'i gwelir o Stadiwm Michigan