Medal Fields
Mae'r Fedal Fields yn wobr a ddyfernir i ddau, tri, neu bedwar mathemategydd dan 40 oed yng Nghyngres Ryngwladol yr Undeb Mathemategol Rhyngwladol (IMU), cyfarfod a gynhelir bob pedair blynedd.
Medal Fields yn dangos delwedd Archimedes | |
Enghraifft o'r canlynol | mathematics award, gwobr am wyddoniaeth |
---|---|
Label brodorol | Fields Medal |
Dechrau/Sefydlu | 1936 |
Dechreuwyd | 1936 |
Enw brodorol | Fields Medal |
Gwefan | https://mathunion.org/imu-awards/fields-medal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caiff y Fedal Fields yn cael ei hystyried yn un o'r anrhydeddau uchaf y gall mathemategydd ei derbyn, ac fe'i disgrifiwyd fel Gwobr Nobel y mathemategydd,[1][2][3] er bod sawl gwahaniaeth allweddol, gan gynnwys amlder y dyfarniad, nifer y gwobrau, a chyfyngiadau oedran. Yn ôl yr Arolwg Rhagoriaeth Academaidd flynyddol gan ARWU, ystyrir y Fedal Field fel y brif wobr ym maes mathemateg ledled y byd,[4] ac mewn arolwg arall a gynhaliwyd gan IREG yn 2013-14, daeth y Fedal Fields yn agos ail ar ôl y Wobr Abel fel y wobr ryngwladol fwyaf mawreddog mewn mathemateg.[5][6]
Daw'r wobr â gwobr ariannol sydd, er 2006, yn CA$15,000.[7][8] Mae enw'r wobr er anrhydedd i'r mathemategydd o Ganada John Charles Fields.[9] Roedd Fields yn allweddol wrth sefydlu'r wobr, dylunio'r fedal ei hun, ac ariannu'r gydran ariannol.
Dyfarnwyd y fedal gyntaf ym 1936 i fathemategydd o’r Ffindir Lars Ahlfors a’r mathemategydd Americanaidd Jesse Douglas, ac mae wedi’i dyfarnu bob pedair blynedd er 1950. Ei bwrpas yw rhoi cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ymchwilwyr mathemategol iau sydd wedi gwneud cyfraniadau mawr. Yn 2014, daeth y mathemategydd o Iran, Maryam Mirzakhani yn Fedalydd Fields benywaidd cyntaf.[10][11][12] At ei gilydd, mae chwe deg o bobl wedi derbyn y Fedal Fields.
Amodau'r wobr
golyguYn wahanol i'r Wobr Nobel, dim ond bob pedair blynedd y dyfernir y Fedal Fields. Mae gan y Fedal Fields derfyn oedran hefyd: rhaid i dderbynnydd fod o dan 40 oed ar 1 Ionawr y flwyddyn y dyfernir y fedal. Mae'r rheol dan-40 yn seiliedig ar awydd Fields taw er bod y fedal yn cydnabod gwaith a wnaed eisoes, y bwriad ar yr un pryd yw bod yn anogaeth ar gyfer cyflawniad pellach ar ran y derbynwyr, ac yn ysgogiad i ymdrech newydd ar y rhan o eraill."[13] Hefyd, dim ond un Fedal Field y gellir ei dyfarnu i unigolyn; nid yw fedalyddion yn gymwys i dderbyn medalau yn y dyfodol.[14] Dyfarnwyd gyntaf ym 1936, mae 60 o bobl wedi ennill y fedal hyd at 2018.[15] Ac eithrio un person oedd â PhD mewn ffiseg (Edward Witten),[16] dim ond pobl â PhD. mewn mathemateg sydd wedi ennill y fedal.[17]
Enillwyr
golyguBlwyddyn | Lleoliad yr ICM | Enillwyr[18] | Rhesymau |
---|---|---|---|
1936 | Oslo, Norwy | Lars Ahlfors | Am ymchwil ar arwynebau gorchuddio yn berthnasol i arwynebau Riemann ffwythiannau gwrthdro o ffwythiannau cyfan a meromorffig. Agorwyd meysydd newydd dadansoddiad.[19] |
Jesse Douglas | Gwnaeth gwaith pwysig ar y broblem Plateau sy'n ymwneud â chanfod arwynebau lleiafsymiol sy'n cysylltu a phenderfynwyd gan ryw derfan a sefydlogwyd. | ||
1950 | Cambridge, UDA | Laurent Schwartz | Datblygodd theori dosraniadau, a chysyniad newydd o ffwythiant cyffredinoledig a gymhellwyd gan ffwythiant delta Dirac yn ffiseg ddamcaniaethol.[20] |
Atle Selberg | Datblygodd cyffredinoliaethau dulliau gogr Viggo Brun; cyflawnodd canlyniadau pwysig at seroau'r ffwythiant zeta Riemann; rhoddodd prawf sylfaenol i'r theorem rhif cysefin (gyda P. Erdős), gyda chyffredinoliad i rifau cysefin mewn dilyniant rhifiadol mympwyol. | ||
1954 | Amsterdam, Yr Iseldiroedd | Kunihiko Kodaira | Cyflawnodd canlyniadau pwysig mewn theori integrynnau harmonig a nifer o gymwysiadau i amrywiadau Kählerian a algebraidd. Dangosodd, trwy gyd-homoleg ysgub, bod yr amrywiadau hyn yn faniffoldau Hodge.[21] |
Jean-Pierre Serre | Cyflawnodd canlyniadau pwysig mewn homotopi grwpiau o sfferau, yn enwedig ei ddefnydd o ddull dilyniannau sbectrol. Ail-ffurfiodd ac ehangodd rhai o brif ganlyniadau theori newidynnau cymhlyg yn nhermau ysgubai. | ||
1958 | Caeredin, DU | Klaus Roth | Yn 1955 datrysodd y broblem Thue-Siegel enwog yn ymwneud â brasamcanu rhifau algebraidd gan rifau cymarebol, a phrofodd yn 1952 bod gan ddilyniant gyda dim mwy na thri rhif mewn dilyniant rhifiadol dwysedd o sero (dyfaliad gan Erdős a Turán yn 1935).[22] |
René Thom | Yn 1954 dyfeisiodd a datblygodd theori cydbordedd mewn topoleg algebaidd. Mae'r dosbarthiad o faniffoldau hwn yn defnyddio theori homotoi mewn ffordd sylfaenol a daeth yn brif enghraifft o theori cyd-homoleg cyffredinol. | ||
1962 | Stockholm, Sweden | Lars Hörmander | Gweithiodd gyda hafaliadau differol rhannol. Yn enwedig, cyfrannodd i'r theori gyffredinol gweithrediadau differol llinol. Mae'r cwestiynau yn olio i un o broblemau Hilbert yn 1900.[23] |
John Milnor | Profodd gall sffêr 7 dimensiwn cael nifer o strwythurau gwahanol; arweiniodd hwn i greu'r maes topoleg ddifferol. | ||
1966 | Moscfa, Yr Undeb Sofietaidd | Michael Atiyah | Gwnaeth gwaith ar y cyd gyda Hirzebruch yn theori-K; profodd gyda Singer y theorem indecs gweithrediadau eliptig ar faniffoldau cymhlyg; cydweithiodd gyda Bott i brofi theorem pwynt sefydlog sy'n berthnasol i'r fformiwla Lefschetz.[24] |
Paul Cohen | Defnyddiodd techneg a elwir "forcing" er mwyn profi bod theori setiau yn annibynnol o'r wireb dewis a'r rhagdybiaeth continwwm cyffredinol. Hwn oedd un p broblemau cyntaf Hilbert yn 1900. | ||
Alexander Grothendieck | Adeiladodd ar waith Weil a Zariski a gwnaeth gwaith yn camu ymlaen geometreg algebraidd, Cyflwynodd syniad theori-K (grwpiau a chylchredau Grothendieck). Chwildroeodd algebra homologaidd yn ei bapur Tôhoku. | ||
Stephen Smale | Gweithiodd mewn topoleg ddifferol lle profodd y dyfaliad Poincaré cyffredinoledig mewn dimensiwn n≥5: Mae pob maniffold n-dimensiwn, sy'n homopi-cywerth i'r sffêr n-dimensiwn, yn homeomorffig iddo. Cyflwynodd y dull "handle-bodies" i ddatrys hwn a phroblemau sy'n perthyn iddo. | ||
1970 | Nice, Ffrainc | Alan Baker | Cyffedinolodd y theorem Gelfond-Schneider (datrysiad seithfed broblem Hilbert). Yn y gwaith hwn generadodd rhifau trosgynnol ni adnabwyd o'r blaen.[25] |
Heisuke Hironaka | Cyffredinolodd gwaith Zariski a phrofodd theorem ar gyfer dimensiynau ≤ 3 ar ddatrysyn hynodion ar amrywiad algebraidd. Profodd Hironaka'r canlyniadau mewn unrhyw ddimensiwn. | ||
Sergei Novikov | Gwnaeth gwaith pwysig mewn topoleg, y fwyaf adnabyddus yw ei brawf sefydlogrwydd topolegol dosbarthau Pontryagin o'r maniffold differadwy. Roedd ei waith yn cynnwys astudiaeth cyd-homoleg a homotopi gofodau Thom. | ||
John G. Thompson | Profodd ar y cyd gyda W. Feit bod gan bob grŵp meidraidd heb gylchlwybr eil-radd. Mae estyniad y gwaith hwn gan Thompson yn penderfynu'r grwpiau syml meidraidd lleiafsymiol, hynny yw, y grwpiau meidraidd lleiafsymiol y mae ei is-grwpiau go iawn yn ddatrysadwy. | ||
1974 | Vancouver, Canada | Enrico Bombieri | Cyfraniadau pwysig mewn rhifau cysefin, mewn ffwythiannau unfalent, a'r dyfaliad Bieberbach lleol, mewn theori ffwythiannau o nifer o newidynnau cymhlyg, ac mewn theori hafaliadau differol rhannol ac arwynebau lleiaf - yn arbennig, datrysiad i broblem Bernstein mewn dimensiynau uwch.[26] |
David Mumford | Cyfrannodd at broblemau bodolaeth a strwythurau amrywiadau o fodwli amrywiadau y mae ei bwyntiau yn parametreiddio dosbarthau isomorffedd rhyw fath o wrthrych geometregol. Hefyd gwnaeth sawl cyfraniad i theori arwynebau algebraidd. | ||
1978 | Helsinki, Y Ffindir | Pierre Deligne | Rhoddodd datrysiad i'r tri dyfaliad Weil yn ymwneud â chyffredinoliaethau y rhagdybiaeth Riemann i feysydd meidraidd. Gwnaeth ei waith llawer i uno geometreg algebraidd a theori rhif algebraidd.[27] |
Charles Fefferman | Cyfrannodd nifer o newyddbethau a adolygodd astudiaeth dadansoddi cymhlyg aml-dimensiwn trwy ganfod cyffredinoliaethau canlyniadau dimensiynau is. | ||
Grigori Margulis | Darparodd dadansoddiad newydd ar strwythurau grwpiau Lie. Mae ei waith yn rhan o gyfuniadeg, geometreg ddifferol, theori ergodig, systemau deinameg, a grwpiau Lie. | ||
Daniel Quillen | Prif bensaer theori-K algebraidd uwch, offeryn newydd a llwyddodd i ddefnyddio dulliau geometreg a thopoleg a syniadau er mewn ffurfio a datrys problemau mawr mewn algebra, yn benodol theori cylchredau a theori modiwl. | ||
1982 | Warsaw, Gwlad Pwyl | Alain Connes | Cyfrannodd i theori algebrâu gweithrediadau, yn enwedig dosbarthiad cyffredinol y theorem strwythur ffactorau math III, dosbarthiad awtomorffeddau ffactor hyper-anfeidraidd, dosbarthiad ffactorau mewnsaethol, a chymwysiadau theori algebrau-C* i ddeiliogrwydd a geometreg ddifferol yn gyffredinol.[28] |
William Thurston | Newidiodd astudiaeth topoleg mewn 2 a 3 dimensiwn, yn dangos cysylltiadau rhwng dadansoddiad, topoleg, a geometreg. Cyfrannodd syniad bod gan maniffoldau-3 caeedig strwythur hyperbolig. | ||
Shing-Tung Yau | Gwnaeth cyfraniadau i hafaliadau differol, a hefyd i ddyfaliad Calabi mewn geometreg algebraidd, a dyfaliad más positif theori perthnasedd cyffredinol, ac i hafaliadau Monge-Ampère real a chymhlyg. | ||
1986 | Berkeley, UDA | Simon Donaldson | Ar gyfer ei waith ar dopoleg maniffoldau-4, yn enwedig yn dangos bod yna strwythur differol ar gofod-4 Ewclidaidd sydd yn wahanol i'r strwythur arferol.[29] |
Gerd Faltings | Defnyddiodd dulliau geometreg algebraidd rhifyddeg i brofi'r dyfaliad Modell. | ||
Michael Freedman | Datblygodd dulliau newydd ar gyfer dadansoddiad topolegol maniffoldau-4. Un o'r canlyniadau hyn yw prawf y dyfaliad Poincaré pedwar dimensiwn. | ||
1990 | Kyoto, Siapan | Vladimir Drinfeld | Ar gyfer ei waith ar grwpiau cwantwm a'i waith yn theori rhif. |
Vaughan F. R. Jones | Ar gyfer darganfod cyswllt rhwng clymau a mecaneg ystadegol. | ||
Shigefumi Mori | Ar gyfer profi dyfaliad Hartshorne a'i waith ar ddosbarthu amrywiadau algebraidd tri dimensiwn. | ||
Edward Witten | Tro ac ôl tro syfrdanodd y gymuned fathemategol gan ei gymhwysiad ardderchog o fewnwelediad ffisegol i theoremau mathemategol dwys.[30] | ||
1994 | Zürich, Y Swistr | Jean Bourgain | Mae ei waith yn cynnwys nifer o bynciau yn ddadansoddiad mathemategol: geometreg gofodau Banach, amgrymedd mewn dimensiynau uwch, dadansoddiad harmonig, theori ergodig, a hafaliadau differol rhannol aflinol o ffiseg fathemategol. |
Pierre-Louis Lions | Datrysodd problem mewn hafaliadau llinol rhannol aflinol trwy ganolbwyntio ar ddatrysiadau gludedd. | ||
Jean-Christophe Yoccoz | Profodd priodweddau sefydlogrwydd, sefydlogrwydd deinameg, megis hynny sydd angen ar gyfer y bydysawd, a sefydlogrwydd strwythurol. | ||
Efim Zelmanov | Ar gyfer ei datrysiad i'r broblem Burnside. | ||
1998 | Berlin, Yr Almaen | Richard Borcherds | Ar gyfer ei waith yn cyflwyno algebrâu fertig, prawf y dyfaliad "moonshine" a darganfyddodd dosbarth newydd o luosymiau anfeidraidd awtomorffig. |
Timothy Gowers | Darparodd cyfraniadau pwysig i ddadansoddiad ffwythiannol, yn defnyddio dulliau o theori cyfuniadau. Nid oes cysylltiadau amlwg rhwng y ddau faes, a llwyddiant pwysig oedd cyfuno'r ddau. | ||
Maxim Kontsevich | Cyfraniadau i bedwar problem geometreg. | ||
Curtis T. McMullen | Cyfrannodd i ganghennau amrywiol theori systemau deinamegol, megis astudiaeth algorithmig hafaliadau polynomial, astudiaeth dosraniad pwyntiau dellt grŵp Lie, geometreg hyperbolig, deinameg holomorffig, ac ail-normaleiddio mapiau' cyfwng. | ||
2002 | Beijing, China | Laurent Lafforgue | Ar gyfer ei brawf o gyfatebiaeth Langlands ar grwpiau llinol cyflawn dros feysydd ffwythiant. |
Vladimir Voevodsky | Diffiniodd a datblygodd cyd-homoleg motiffaidd a'r theori homotopi-A1 amrywiadau algebraidd; profodd dyfaliadau Milnor ar feysydd theori-K. | ||
2006 | Madrid, Sbaen | Andrei Okounkov | Ar gyfer ei gyfraniadau yn uno tebygolrwydd, theori cynrychiolaethau, a geometreg algebraidd. |
Grigori Perelman (gwrthododd) | Ar gyfer ei gyfraniadau i geometreg a'i mewnwelediadau chwildoadol i strwythur dadansoddol a geometryddol llif Ricci. | ||
Terence Tao | Ar gyfer ei gyfraniadau i hafaliadau differol rhannol, cyfuniadeg, dadansoddiad harmonig a theori rhif adiol. | ||
Wendelin Werner | Ar gyfer ei gyfraniadau i ddatblygiad esblygiad stocastig Loewner, geometreg mudiant Brown dau-dimensiwn, a theori maes cydffurf. | ||
2010 | Hyderabad, India | Elon Lindenstrauss | Ar gyfer ei ganlyniadau ar anhyblygedd mesuriadau mewn theori ergodig, a'u cymwysiadau i theori rhif. |
Ngô Bảo Châu | Ar gyfer prawf y Lema Sylfaenol yn ei theori ffurfiau awtomorffig trwy gyflwyno dulliau algebro-geometreg newydd. | ||
Stanislav Smirnov | Ar gyfer praw f sefydlogrwydd cydffurf trylifiad, a'r model Ising planar mewn ffiseg ystadegol. | ||
Cédric Villani | Ar gyfer ei brofion dampio Landau aflinol a cydgyferiad i ecwilibriwn yr hafaliad Boltzmann. | ||
2014 | Seoul, De Croea | Artur Avila | Ar gyfer ei gyfraniadau dwys i theori systemau deinnamegol, sydd wedi gwbl newid y maes, ac ar gyfer defnyddio'r syniad pwerus ail-normaleiddio fel egwyddor uno.[31] |
Manjul Bhargava | Ar gyfer datblygu dulliau pwerus newydd mewn geometreg rhifau, y cymhwysodd i gyfri cylchredau ranc bach ac i arffinio ranc cymedrig gromliniau eliptig. | ||
Martin Hairer | Ar gyfer ei gyfraniadau arbennig i theori hafaliadau differol rhannol stocastig, ac yn arbennig ar gyfer creu theori strwythurau rheolaidd ar gyfer yr hafaliadau hyn. | ||
Maryam Mirzakhani | Ar gyfer ei chyfraniadau arbennig i ddeinameg a geometreg arwynebau Riemann a'u gofodau modwli. | ||
2018 | Rio de Janeiro, Brasil | Caucher Birkar | Ar gyfer prawf arffinrwydd amrywiadau Fano ac ar gyfer cyfraniadau i'r rhaglen model lleiaf.[32] |
Alessio Figalli | Ar gyfer cyfraniadau i theori mudiant optimaidd a'i chymwysiadau i hafaliadau differol rhannol, geometreg fetrig, a thebygolrwydd. | ||
Peter Scholze | Ar gyfer trawsffurfio geometreg algebraidd rifiadol dros feysydd p-adic trwy gyflwyniad gofodau perffaithoid, gyda chymwysiadau i gynrychioliadau Galois, a datblygiad theorïau newydd cyd-homoleg. | ||
Akshay Venkatesh | Ar gyfer ei defnydd theori rhif analytig, deinameg homogenaidd, topoleg, a theori cynrychioliadau, a ddatrysodd hen broblemau mewn meysydd megis hafal-dosraniad gwrthrychau rhifiadol. |
Digwyddiadau o bwys
golygu- Dyfarnwyd y fedal gyntaf ym 1936 i'r mathemategydd o'r Ffindir Lars Ahlfors a'r mathemategydd Americanaidd Jesse Douglas, a dyfarnwyd y fedal pob pedair blynedd er 1950.
- Ym 1954, daeth Jean-Pierre Serre yn enillydd ieuengaf y Fedal Fields, yn 27 oed. Mae hwn yn wir hyd heddiw.
- Ym 1966, boicotiodd Alexander Grothendieck yr ICM, a gynhaliwyd ym Moscow, i brotestio gweithredoedd milwrol Sofietaidd sy'n digwydd yn Nwyrain Ewrop.[33] Mynychodd a derbyniodd Léon Motchane Medal Fields Grothendieck ar ei ran.[34]
- Ym 1970, oherwydd cyfyngiadau a osodwyd arno gan y llywodraeth Sofietaidd, ni lwyddodd Sergei Novikov i deithio i'r gyngres yn Nice i dderbyn ei fedal.
- Yn 1978, oherwydd cyfyngiadau a osodwyd arno gan y llywodraeth Sofietaidd, ni lwyddodd Grigory Margulis i deithio i'r gyngres yn Helsinki i dderbyn ei fedal.[35]
- Yn 1982, roedd disgwyl i'r gyngres gael ei chynnal yn Warsaw ond bu'n rhaid ei hail-drefnu i'r flwyddyn nesaf, oherwydd y rheolaeth filwrol a gyflwynwyd yng Ngwlad Pwyl ar 13 Rhagfyr 1981. Cyhoeddwyd y gwobrau yn nawfed Cynulliad Cyffredinol yr IMU yn gynharach yn y flwyddyn, ac fe'u dyfarnwyd yng nghyngres Warsaw 1983.
- Yn 1990, daeth Edward Witten y ffisegydd cyntaf i ennill y wobr.
- Ym 1998, cyflwynwyd plac arian IMU cyntaf erioed i Andrew Wiles yn yr ICM gan gadeirydd y Pwyllgor Medal Fields, er cydnabyddiaeth ei brawf o Theorem Olaf Fermat. Mae cyfrifon y wobr hon yn aml yn adrodd bod Wiles, ar adeg y dyfarniad, dros y terfyn oedran ar gyfer medal Fields. Er bod Wiles ychydig dros y terfyn oedran ym 1994, credwyd ei fod yn ffefryn i ennill y fedal; fodd bynnag, darganfuwyd blwch (a ddatryswyd yn ddiweddarach gan Taylor a Wiles) yn y prawf ym 1993.[36]
- Yn 2006, gwrthododd Grigori Perelman, a brofodd ragdybiaeth Poincaré, ei Fedal Fields[7] ac ni fynychodd y gyngres.[37]
- Yn 2014, daeth Maryam Mirzakhani y fenyw gyntaf yn ogystal â'r person gyntaf o Iran i ennill y Fedal Fields, ac Artur Avila oedd y person cyntaf o De America i'w ennill, a daeth Manjul Bhargava y person cyntaf o darddiad Indiaidd i'w ennill.[38][39][40][41]
Medal
golyguDyluniwyd y fedal gan y cerflunydd o Ganada R. Tait McKenzie.[42] Ar un wyneb mae pen Archimedes, a dyfyniad yn Lladin: "Transire suum pectus mundoque potiri" ("Codwch yn uwch na'ch hun a chafaelwch yn y byd"). Mewn priflythrennau Groeg mae'r gair ΑΡXIMHΔΟΥΣ, neu "of Archimedes" I'r gwrthwyneb mae'r arysgrif (yn Lladin):
- CONGREGATI EX TOTO ORBE MATHEMATICI OB SCRIPTA INSIGNIA TRIBUERE
Cyfieithiad: "Mae mathemategwyr a gasglwyd o'r byd i gyd wedi dyfarnu am ysgrifau rhagorol." Yn y cefndir, mae cynrychiolaeth o feddrod Archimedes, gyda'r cerfiad yn darlunio ei theorem sffêr a silindr, y tu ôl i gangen olewydd. Mae'r ymyl yn dangos enw'r enillydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ball, Philip (2014). "Iranian is first woman to nab highest prize in maths" (yn en). Nature. doi:10.1038/nature.2014.15686. https://www.nature.com/news/iranian-is-first-woman-to-nab-highest-prize-in-maths-1.15686.
- ↑ "Fields Medal". www-history.mcs.st-andrews.ac.uk. Cyrchwyd 2018-03-29.
- ↑ "Fields Medal". The University of Chicago (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-29.
- ↑ "Top Award, ShanghaiRanking Academic Excellence Survey 2017 | Shanghai Ranking – 2017". Shanghairanking.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-17. Cyrchwyd 2018-03-29.
- ↑ IREG Observatory on Academic Ranking and Excellence. IREG List of International Academic Awards (PDF). Brussels: IREG Observatory on Academic Ranking and Excellence. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-03-12. Cyrchwyd 3 March 2018.
- ↑ Zheng, Juntao; Liu, Niancai (2015). "Mapping of important international academic awards". Scientometrics 104 (3): 763–791. doi:10.1007/s11192-015-1613-7.
- ↑ 7.0 7.1 "Maths genius turns down top prize". BBC. 22 August 2006. Cyrchwyd 22 August 2006.
- ↑ "Israeli wins 'Nobel' of Mathematics", The Jerusalem Post
- ↑ "About Us: The Fields Medal". The Fields Institute, University of Toronto. Cyrchwyd 21 August 2010.
- ↑ "President Rouhani Congratulates Iranian Woman for Winning Math Nobel Prize". Fars News Agency. 14 August 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 14 August 2014.
- ↑ "IMU Prizes 2014". International Mathematical Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 12 August 2014.
- ↑ correspondent, Saeed Kamali Dehghan Iran (2017-07-16). "Maryam Mirzakhani: Iranian newspapers break hijab taboo in tributes". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2017-07-18.
- ↑ McKinnon Riehm & Hoffman 2011
- ↑ "Rules for the Fields Medal" (PDF). mathunion.org.
- ↑ "Fields Medal". International Mathematical Union. Cyrchwyd 14 September 2020.
- ↑ "Edward Witten". World Science Festival. Cyrchwyd 14 September 2020.
- ↑ Kollár, János (2014). "Is there a curse of the Fields medal?" (PDF). Princeton University. Cyrchwyd 14 September 2020.
- ↑ "The Fields Medalists, chronologically listed". International Mathematical Union (IMU). 8 May 2008. Cyrchwyd 25 March 2009.
- ↑ "Fields Medals 1936". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1950". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1954". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1958". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1962". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1966". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1970". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1974". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 1978". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals and Nevanlinna Prize 1982". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals and Nevanlinna Prize 1986". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ Michael Atiyah. "On the Work of Edward Witten" (PDF). Mathunion.org. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 1 March 2017. Cyrchwyd 2017-03-31.
- ↑ "Fields Medals 2014". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ "Fields Medals 2018". mathunion.org. International Mathematical Union.
- ↑ Jackson, Allyn (October 2004). "As If Summoned from the Void: The Life of Alexandre Grothendieck". Notices of the American Mathematical Society 51 (9): 1198. http://www.ams.org/notices/200410/fea-grothendieck-part2.pdf. Adalwyd 26 August 2006.
- ↑ "This Mathematical Month – August". American Mathematical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-11.
- ↑ Margulis biography, School of Mathematics and Statistics, University of St Andrews, Scotland. Retrieved 27 August 2006.
- ↑ "Borcherds, Gowers, Kontsevich, and McMullen Receive Fields Medals". Notices of the AMS 45 (10): 1359. November 1998. http://www.ams.org/notices/199810/comm-fields.pdf.
- ↑ Nasar, Sylvia; Gruber, David (21 August 2006). "Manifold Destiny: A legendary problem and the battle over who solved it". The New Yorker. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 August 2006. Cyrchwyd 24 August 2006.
- ↑ The Work of Maryam Mirzakhani Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback, IMU Press Release 2014, accessed 30 September 2014
- ↑ UNESCO (2015). A Complex Formula: Girls and Women in Science, Technology, Engineering and Mathematics in Asia (PDF). Paris, UNESCO. t. 23. ISBN 978-92-9223-492-8.
- ↑ "IMU Prizes 2014". International Mathematical Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 12 August 2014.
- ↑ Saeed Kamali Dehghan (2017-07-16). "Maryam Mirzakhani: Iranian newspapers break hijab taboo in tributes". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2017-07-18.
- ↑ "Fields Institute – The Fields Medal". Fields.utoronto.ca. 9 August 1932. Cyrchwyd 21 August 2010.