Priordy Cas-gwent

eglwys yng Nghas-gwent, Sir Fynwy

Mynachlog yn perthyn i'r Benedictiaid oedd Priordy Cas-gwent, a'r fynachlog gyntaf yn perthyn i un o'r urddau mynachaidd Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru.

Priordy Cas-gwent
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCas-gwent Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr18 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6426°N 2.67203°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Mynwy Edit this on Wikidata
Porth Normanaidd Priordy Cas-gwent
Eglwys y Santes Fair; safle'r priordy

Sefydlwyd y priordy, oedd wedi ei gysegru i'r Santes Fair, yng Nghas-gwent tua 1072 gan William fitzOsbern a'i fab Roger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd. Safai gerllaw y castell yr oedd William fitzOsbern wedi ei adeiladu yng Nghas-gwent ar ôl meddiannu'r ardal.

Priordy bychan oedd erioed, heb fwy na phedwar mynach yn cael eu cofnodi yno. Yn 1291, amcangyfrifwyd fod ei gwerth o dan £35. Yn 1534 dim ond un mynach a'r prior oedd yno, ac roedd yr incwm blynyddol yn £32. Diddymwyd y priordy yn 1536.

Trowyd eglwys y priordy yn eglwys y plwyf, Eglwys y Santes Fair, ac er bod cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod, gellir gweld rhannau o'r adeilad Normanaidd. Ychydig a wyddwn am adeiladau eraill y priordy.

Llyfryddiaeth golygu

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992)