Priordy Benedictaidd ger tref Penfro yn Sir Benfro oedd Priordy Penfro.

Penfro oedd y cyntaf o briordai Benedictaidd Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1098 gan Arnulph de Montgomery, brawd i Iarll Amwythig; efallai ar safle clas brodorol. Rhoddodd Arnulph y priordy i Abaty Sant Martin yn Seez, a phan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddiweddarach, dioddefodd y priordy oherwydd ei fod yn eiddo i abaty Ffrengig.

Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £19. Yn 1443 rhoddwyd y priordy i Abaty St Albans yn Lloegr. Diddymwyd yn priordy yn 1539, pan amcangyfrifwyd ei werth yn £57.

Llyfryddiaeth golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato