Priordy Pyll
priordy rhestredig Gradd II* yn Aberdaugleddau
Priordy yn perthyn i Urdd Tiron gerllaw Aberdaugleddau, Sir Benfro oedd Priordy Pyll. Roedd yn un o dri tŷ crefydd yn perthyn i'r Tironiaid yn Sir Benfro; y fam dŷ oedd Abaty Llandudoch.
Math | priordy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberdaugleddau |
Sir | Aberdaugleddau |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 5.3 metr |
Cyfesurynnau | 51.7248°N 5.03799°W, 51.724648°N 5.038244°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE070 |
Nid oes sicrwydd am ddyddiad ei sefydlu; ond credir ei fod rywbryd rhwng 1117 a 1200. Dywedir mai Adam de la Roche a'i sefydlodd.
Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £21, ac roedd yn berchen 1300 acer o dir. Erbyn diddymiad y mynachlogydd, roedd gwerth y priordy yn £52, ac roedd tri mynach yno. Diddymwyd y priordy yn 1536.
Llyfryddiaeth
golygu- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120