Priordy y Fenni
eglwys rhestredig Gradd I yn Y Fenni
Priordy Benedictaidd yn y Fenni, Sir Fynwy, oedd Priordy y Fenni. Adeiladwyd castell y Fenni tua 1090 gan yr arglwydd Normanaidd Hamelin de Balun, a sefydlodd y priordy tua allan i furiau'r dref rywbryd cyn 1100.
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Fenni ![]() |
Sir | Y Fenni ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 56.4 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8215°N 3.01554°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Mynwy ![]() |
Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £51, ac roedd yn berchen ar 341 acer o dir. Bwriedid iddo fod a deuddeg mynach a'r prior, ond dim ond pum mynach oedd yno yn 1319; a dywedid bod y rhain ymhell o gadw at y rheol fynachaidd. LLosgwyd y priordy yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Yn 1535, amcangyfrifwyd fod gwerth y priordy yn £129, ac fe'i diddymwyd y flwyddyn ganlynol. Daeth eglwys y priordy yn eglwys y plwyf.
LlyfryddiaethGolygu
- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 9780953563500