Priyanka Lalla
Mae Priyanka Lala yn ymgyrchydd hawliau plant o Trinidad a Tobago. Mae hi ar ei phen ei hun wedi trefnu sawl ymgyrch genedlaethol ynghylch materion fel cam-drin plant yn rhywiol a'r amgylchedd. Yn 2021 roedd yn mynychu Ysgol Port of Spain yn ei mamwlad ac yn 14 oed.
Priyanka Lalla | |
---|---|
Priyanka Lalla yn 2020, yn 14 oed | |
Dinasyddiaeth | Trinidad a Tobago |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd, disgybl ysgol |
Dechreuodd weithredu pan oedd yn 10 oed "gan weithio ar brosiectau gyda'r nod o annog ac ysbrydoli pobl ifanc eraill i ddefnyddio eu creadigrwydd i wneud newidiadau ystyrlon yn y byd", dywedodd. Dyluniodd gynllun ar gyfer y 'Pecyn Cinio Dim Gwastraff' a chychwynnodd y 'Blog Byw: Dim Gwastraff'. Cyfarfu â Chomisiynydd yr Heddlu wi gwlad i'w wneud ef ac uwch swyddogion eraill yn ymwybodol o gyflwr plant sy'n cael eu cam-drin yn ei gwlad a dilynodd hynny drwy ddylunio cynnwys addysgu swyddogion heddlu ar y mater hwn.[1][2]
Yn 2018, roedd hi ymhlith y grŵp cyntaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn Trinidad a Tobago i ddod yn Llysgennad Cenedlaethol dros Hawliau Plant, rhaglen a gychwynnwyd gan Swyddfa'r Prif Weinidog a gyda chefnogaeth gan UNICEF, i dynnu sylw at hawliau plant yn y wlad.[3][4]
Yn Chwefror 2021, yn 14 oed, dywedodd:[5]
“ |
Yn 10 oed, felly hyd yn oed cyn corwyntoedd enbyd 2017, roeddwn yn gofyn i'm ffrindiau roi'r gorau i ddefnyddio plastig gan fy mod yn poeni am yr anifeiliaid yn y cefnfor ond dechreuodd fy nhaith ar addasu i newid hinsawdd gyda Chorwynt Irma. Hyd heddiw, mae'n gyrru popeth rwy'n ei wneud gan fy mod yn meddwl yn barhaus am yr hyn y gallaf ei wneud i newid fy ffordd o fyw. |
” |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "T&T's Lalla now a global UNICEF Youth Advocate". www.guardian.co.tt (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-26.
- ↑ "CoP Meets with Child Rights Ambassador Priyanka Lalla". Trinidad and Tobago Police Service Corporate Communications Unit. https://www.ttps.gov.tt/Portals/0/Documents/Media%20Releases/April%202019/Media%20Release-%20CoP%20Meets%20with%20Child%20Rights%20Ambassador%20Priyanka%20Lalla.pdf?ver=2019-06-24-092253-047×tamp=1561393888679.
- ↑ guardian.co; Pennawd: T&T’s Lalla now a global UNICEF Youth Advocate; dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2020. Adalwyd 28 Mai 2021.
- ↑ "Priyanka Lends a Helping Hand". www.isps.edu.tt (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-26.
- ↑ voicesofyouth.org; pennawd: Advocating for Zero Waste in Trinidad and Tobago; dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2021.