Prosiect Bys ar Frys
Sefydlwyd prosiect Bys ar Frys ym Mai 2002 gan Menter Môn.
Daeth y syniad o gyhoeddi llyfryn negeseuon testun i'r amlwg wrth i'r Fenter gydweithio â phobl ifanc o Ysgol Gyfun Llangefni. Trafodwyd nifer o syniadau a fyddai'n fodd i hybu defnydd o'r Gymraeg ym Môn a thu hwnt, ac fe benderfynwyd cynhyrchu 'tecstiadur'.
Cynhyrchwyd 5000 o gopiau o'r llyfryn i'w dosbarthu am ddim i bob disgybl yn ysgolion uwchradd Môn. Roedd diddordeb ynghylch y tecstiadur wedi bod yn llwyddiannus.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Menter Môn- Adroddiad Saith Mlynedd Cyntaf (Septennial Report). Llangefni: W.O Jones. 2003. t. 35.