Menter Môn
Sefydlwyd Menter Môn yn 1995 i gyflawni rhaglenni datblygu gwledig yr Undeb Ewropeaidd.
Math | sefydliad di-elw |
---|---|
Sefydlwyd | 1995 |
Pencadlys | Llangefni |
Cefndir
golyguMae'n gwmni trydydd sector gyda bwrdd cyfarwyddwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector preifat, gwirfoddol a chymunedol. Prif nod y cwmni yw hwyluso adfywiad economaidd gwledig yn Ynys Môn. Er mwyn gwneud hyn, mae Menter Môn yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod a dathlu adnoddau unigryw a gwerthfawr yr ynys, o'r Gymraeg a'r wiwer goch i'n harfordir trawiadol a'n pobl ifanc galluog. Mae'r cwmni wedi denu dros £40 miliwn o arian grant o ffynonellau amrywiol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl.
Yr Amgylchedd Naturiol a Bioamrywiaeth
golyguMae Menter Môn yn ymrwymedig i warchod bioamrywiaeth Ynys Môn. Fel sefydliad sydd wedi’i leoli yn y gymuned, mae'r fenter yn anelu i fod o fudd i bobl Môn ac ymwelwyr drwy ddarparu profiad amrywiol o harddwch naturiol yr ynys. Mae'r fenter yn credu mai’r ffordd orau i warchod natur yw ei wneud yn atyniad i ymwelwyr a thwristiaeth wledig. Dechreuodd prosiectau’r Dyfrgi a’r Wiwer Goch tuag at ddiwedd y 1990au. Mae’r gwiwerod coch wedi diflannu o’r rhan fwyaf o weddill Cymru, ond o ganlyniad i’r prosiect maent ar gynnydd ar Ynys Môn. Mae Menter Môn wedi helpu i ailsefydlu dyfrgwn yn afonydd a gwlyptiroedd Môn, sy’n gynefinoedd arbennig o dda. Mae nifer y dyfrgwn yn cynyddu’n naturiol, ond fe barhânt i fod yn agored i niwed. Mae gwlyptiroedd Môn hefyd yn hafan i Lygoden y Dŵr - y mamal sy’n dirywio gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'r prosiect Llygoden y Dŵr yn gwella’r cynefin hwn ac yn amddiffyn Llygod y Dŵr rhag eu hysglyfaethwyr, sef y Minc Americanaidd.Drwy wethio gyda chymunedau lleol, mae'r fenter wedi sefydlu 6 Gwarchodfa Natur -gyda mwy i ddod.Mae'r gwarchodfeydd yn darparu mannau agored gyda chyfoeth o fywyd gwyllt i bobl leol ac ymwelwyr gael eu mwynhau.Mae'r fentey yn annog ysgolion llol y'w defnyddio fel adnodd addysgol -yn enwedig yr ysgolion cynradd. Ynys Mon Yw un o'r safleodd lleol i'w defnyddio fel adnodd addysgol - yn enwedig yr ysgolion cynradd. - mae'r math hynaf, Cyn-Gamvriaidd, dros 600 miliwn mlwydd oed. Rydym yn cefnogi GeoMon, geobarc Ynys Mon.
Adfywiad Cymunedol
golyguMae Menter Môn wedi cydweithio’n agos â threfi a phentrefi ar draws Ynys Môn ers 1995. O ganlyniad i gyllid gan amrywiaeth o raglenni Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi adfer asedau cymunedol, cefnogi digwyddiadau, sefydlu mentrau cymunedol a hyrwyddo treftadaeth leol. Yn ôl Menter Môn, mae’r gweithgareddau hyn wedi cryfhau’r ymdeimlad o berchnogaeth cymuned ac anadlu bywyd newydd i’r pentrefi sydd wedi colli llawer o’u mwynderau allweddol yn y blynyddoedd diweddar.[1]
Treftdaeth
golyguMae’r prosiectau a gefnogwyd gan Menter Môn wedi amrywio o gynlluniau tirwedd a dehongli bychan yn llawer o bentrefi’r ynys at brynu ac adfer castell Normanaidd. Gyda phob un ohonynt cafwyd pwyslais ar wneud gwybodaeth yn berthnasol ac yn hygyrch i drigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr.
- Creu meysydd parcio bach mewn pentrefi ynghyd â byrddau dehongli yn cynnwys gwybodaeth am yr ardal leol a theithiau cerdded addas.
- Gwelliannau isadeileddol bach mewn nifer o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol megis eglwysi a henebion eraill.
- Cyhoeddi cyfres o daflenni yn manylu ar yr adnoddau hanesyddol, amgylcheddol a diwylliannol.
- Cefnogi grwpiau lleol wrth sefydlu amgueddfeydd a digwyddiadau i gyflwyno hanes lleol.
- Creu llwybrau troed a rhodfeydd i wella’r mynediad at safleoedd o ddiddordeb hanesyddol.
Y Gymraeg a Diwylliant
golyguSefydlwyd Menter Iaith Môn yn 1997 er mwyn hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ym Môn. Mae’n cynnig cefnogaeth i gymunedau ar yr ynys i gynyddu a datblygu eu defnydd o’r Gymraeg. Mae cyngor a chymorth ar gael i unigolion, sefydliadau a busnesau, ac mae gweithgareddau’n cael eu trefnu i godi proffil y Gymraeg. Ynys Môn yw un o gadarnleoedd y Gymraeg, gyda thros 60% o’r boblogaeth yn ddwyieithog, a’r swm hwnnw’n cynyddu i 73% wrth gyfri plant a phobl ifanc ar wahân. Mae’r iaith yn fyw yn y cartref, yn y man gwaith, mewn ysgolion ac yn y gymuned. Mae'r fenter yn siop un stop ar gyfer y Gymraeg[1] , a gallwn ddarparu cyngor ar bopeth, o ddysgu Cymraeg fel ail iaith ac addysg ddwyieithog, cyfieithu poster a threfnu digwyddiad Cymraeg. Mae'r fenter hefyd yn trefnu nifer o weithgareddau, gan gynnwys:
- cyfleoedd cymdeithasol a hamdden i blant a phobl ifanc i ddefnyddio eu Cymraeg.
- cyfleoedd cymdeithasol a hamdden i rieni a theuluoedd i annog a hyrwyddo faint o Gymraeg maen nhw’n ei ddefnyddio.
- cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
- cydweithio â sefydliadu lleol i gynnig gweithgareddau cymdeithasol.
Arloesi mewn busnes
golyguMae Menter Môn yn gweithio gydag unigolion uchelgeisiol a busnesau presennol ar Ynys Môn er mwyn datblygu eu busnesau, datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, a chreu gwaith. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn un eang ac yn aml wedi’i theilwra i gwrdd ag anghenion busnesau unigol.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Cymraeg) Menter Môn Cyf. Gwefan swyddogol. Menter Môn. Adalwyd ar 06 Ebrill 2012.