Prosiect Eden

gardd fotaneg yng Nghernyw

Cyfadeilad amgylcheddol ar thema natur a datblygu cynaliadwy yw Prosiect Eden (Saesneg: The Eden Project; Cernyweg: Edenva). Fe'i lleolir y tu mewn cyn-weithfeydd caolin, ychydig i'r gorllewin o bentrefan Bodelva ger tref St Blazey.

Prosiect Eden
Mathtŷ gwydr, gardd fotaneg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mai 2000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSt Blazey Edit this on Wikidata
SirCernyw
GwladBaner Cernyw Cernyw
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.3619°N 4.7447°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolhigh-tech architecture Edit this on Wikidata

Cafodd y dyn busnes Tim Smit syniad y prosiect, a gynlluniwyd gan y pensaer Nicholas Grimshaw. Parhaodd y gwaith adeiladu ddwy flynedd a hanner. Agorwyd y ganolfan, sy'n denu llawer o ymwelwyr i'r ardal,[1] ym mis Mai 2000.

Mae gan y safle ddau strwythur enfawr sy'n cynnwys cromenni geodesig cyfagos sy'n gartref i filoedd o rywogaethau planhigion. Mae pob strwythur yn efelychu bïom naturiol: mae'r mwyaf o'r ddwy fïom yn efelychu amgylchedd coedwig law, a'r ail, amgylchedd hinsawdd y Canoldir. Y tu allan mae gardd fotaneg fawr ac amrywiol. Mae'r biomau a'r gerddi gyda'i gilydd yn llenwi tua 13 hectr (32 erw).

Y cromenni geodesig sy'n gartref i'r biomau

Cyfeiriadau golygu

  1. Yn ôl ystadegau swyddogol, roedd 1,006,928 o ymwelwyr i Brosiect Eden yn ystod 2018: "Latest Visitor Figures", Association of Leading Visitor Attractions; adalwyd 20 Mai 2019.

Dolenni allanol golygu