Prospect Cottage

bwthyn yn Dungeness, Caint

Bwthyn ar yr arfordir yn Dungeness, Caint, De-ddwyrain Lloegr, yw Prospect Cottage. Roedd yn gwt pysgotwr Fictoraidd yn wreiddiol. Prynwyd y tŷ gan yr artist a chyfarwyddwr Derek Jarman ym 1986, a bu'n gartref iddo hyd ei farwolaeth ym 1994. Mae waliau pren y bwthyn wedi'u paentio â thar du, ac mae un wal wedi'i haddurno â llinellau o'r gerdd "The Sun Rising" gan John Donne. Creodd Jarman ardd yn y traeth graeanog o amgylch y bwthyn, cymysgedd o gerfluniau wedi ymgynnull o froc môr o'r traeth gerllaw, a phlanhigion gwydn a allai oroesi tywydd garw'r safle.

Prospect Cottage
Math Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLydd
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.9225°N 0.9761°E Edit this on Wikidata
Cod OSTR092178 Edit this on Wikidata
Map

Ar ôl marwolaeth Jarman, gadawyd y bwthyn i'w bartner Keith Collins. Rhoddwyd y tŷ ar werth yn 2018 ar ôl marwolaeth Collins. Mae'n dal i gynnwys gwaith celf gan ffrindiau ac edmygwyr Jarman, gan gynnwys Maggi Hambling, John Maybury, Gus Van Sant a Richard Hamilton. Gyda'r posibilrwydd y byddai'r tŷ'n cael ei werthu'n breifat, lansiodd yr Art Fund ymgyrch ym mis Ionawr 2020 i godi arian i warchod a chynnal yr adeilad, ei gynnwys a'i ardd ar gyfer y dyfodol.[1]

Planhigion a cherfluniau yn yr ardd

Cyfeiriadau golygu

  1. Harris, Gareth (22 Ionawr 2020). "Artists rally to save Prospect Cottage, the house of late filmmaker Derek Jarman".

Dolenni allanol golygu