Prostad

(Ailgyfeiriad oddi wrth Prostrad)

Chwarren sy'n rhan o'r organau rhyw gwrywaidd yw'r prostad[1][2].

Prostate - Gray1153.png
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endid anatomegol Edit this on Wikidata
Mathmale accessory sex gland, lobular organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osystem atgenhedlu gwrywaidd Edit this on Wikidata
Cynnyrchhylif y prostad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

'Gwarchodwr' neu 'geidwad' ydy ystyr prostad (o'r gair Groeg προστάτης - prostates). Chwarren gyfansawdd ecsocrinaidd ydyw (hynny yw 'compound tubuloalveolar exocrine gland') a rhan bwysig o system atgenhedlumamaliaid gwrywaidd. Nid oes gan fenywod neu mamaliaid benywaidd eraill brostad.

Mae'r prostad yn wahanol mewn gwahanol rywogaethau, yn wahanol o ran ei anatomi, yn gemegol ac o ran ei ffisioleg.

Ei bwrpasGolygu

Prif bwrpas y prostad yw storio a secretu hylif clir gyda pH o 7.29; mae'r hylif hwn o ran cyfaint rhwng 10-30% o'r hylif hadlifol ('seminal') sydd ynghyd â'r sberm yn gwneud y semen. Mae gweddill yr hylif yn dod o'r ddau fesicl hadlifol. Mae'r hylif hadlifol, fel y dywedir, ychydig yn alcalïaidd, ac felly'n niwtraleiddio hylif asidig y wain (neu'r 'fagina') sy'n hwyhau oes y sberm.

Mae gan y prostad hefyd ychydig o gyhyrau llyfn sy'n help i alldaflu'r semen ar eiliad yr orgasm.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-03-08.
  2. "Chwiliwch am derm, gair neu ymadrodd". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2022-03-08.
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.