Mae'r pryfed clustiog neu'r dermaptera (o'r Roeg, δερμα, derma = "croen" a πτερον, pteron = "adain") yn urdd o bryfed yn yr is-ddosbarth Neoptera. Mae ganddyn nhw gorff hir, braidd yn wastad, canolig neu fach o ran maint, lliw brown a chochlyd a gyda dau gorn siâp siswrn ar y cefn. Maent fel arfer yn byw ymhlith cerrig neu y tu mewn i goed.

Pry clustiog
Delwedd:Forficula.auricularia.-.lindsey.jpg, Tijereta - Forficula auricularia (553075910).jpg, Cadeladefrade 045eue.jpg
Enghraifft o'r canlynoltacson, organebau yn ôl enw cyffredin Edit this on Wikidata
Safle tacsonurdd Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonPolyneoptera Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 209. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r pryfed hyn yn doreithiog iawn ac mae tua 1,840 o rywogaethau'n hysbys, y rhan fwyaf ohonynt yn y trofannau, er y gellir eu canfod hefyd mewn hinsawdd cymedrol. Defnyddir yr adenydd blaen fel elytra, hynny yw, fel gorchudd, ac mae'r adenydd cefn yn grwn ac yn hynod. Mae gan deulu'r Estafilinidae adenydd tebyg, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn esblygiadol agos.

Enw golygu

Adain pry clustiog ar agor - siâp clust?

Mae enw'r pry mewn sawl iaith yn cynnwys y gair "clust" (Cymraeg: pry clustiog, Saesneg: earwig, Ffrangeg: perce-oreille, Almaeneg: Ohrwurm ac ati). Mae'n bosib mai cyfeirio mae hyn at siap yr adenydd ôl pan cânt eu hagor, yn ogystal ag at straeon gwerin am y pryfed hyn yn cropian i glustiau pobl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dermaptera - earwigs". www.ento.csiro.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-01. Cyrchwyd 2023-01-02.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: