Prydain Newydd
Ynys yn perthyn yn wleidyddol i Papua Gini Newydd yw Prydain Newydd (Saesneg New Britain). Saif i'r dwyrain o ynys Gini Newydd, a hi yw'r fwyaf o Ynysoedd Bismarck. Mae gan yr ynys arwynebedd o 36,320 km², a phoblogaeth o tua 395,000.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Kokopo |
Poblogaeth | 513,926 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Bismarck |
Sir | Islands Region, West New Britain Province, East New Britain Province |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 36,520 km² |
Uwch y môr | 2,334 metr |
Gerllaw | Môr Bismarck, Môr Solomon |
Cyfesurynnau | 5.75°S 150.6°E |
Hyd | 520 cilometr |
Ers 1966, mae'r ynys wedi ei rhannu yn ddwy dalaith, Gorllewin Prydain Newydd gyda Kimbe fel prifddinas, a Dwyrain Prydain Newydd. Hyd at ffrwydrad llosgfynydd yn 1994, Rabaul oedd prifddinas Dwyrain Prydain Newydd, ond wedi i'r rhan fwyaf o drigolion y ddinas ffoi'r ffwydrad, symudwyd y brifddinas i Kokopo.