Ynysoedd Bismarck
Ynysoedd yn perthyn yn wleidyddol i Papua Gini Newydd yw Ynysoedd Bismarck. Saif yr ynysoedd hyn i'r dwyrain o ynys Gini Newydd ym Môr Bismarck. Yr ynysoedd mwyaf yw Prydain Newydd, Iwerddon Newydd, Lavongai a'r Ynysoedd Admiralty, sy'n cynnwys ynys Manus.
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Otto von Bismarck |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gini Newydd Almaenig, Islands Region |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 49,700 km² |
Uwch y môr | 2,300 metr |
Gerllaw | Môr Bismarck |
Cyfesurynnau | 5°S 150.1°E |
Credir i'r trigolion cyntaf gyrraedd yr ynysoedd tua 33,000 o flynyddoedd yn ôl, o ynys Gini Newydd. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ynysoedd oedd y fforwiwr Willem Schouten o'r Iseldiroedd yn 1616. Rhwng 1884 a 1914 roedd yr ynysoedd yn rhan o Gini Newydd Almaenig, ac enwyd hwy ar ôl canghellor yr Almaen, Otto von Bismarck.