Rhaglen gylchgrawn ar S4C yw Prynhawn Da a gynhyrchir gan gwmni Tinopolis. Mae'n chwaer rhaglen i'r rhaglen nosweithiol Heno.

Cychwynodd yn 1998 o dan y teitl P'nawn Da a roedd y cyflwynwyr gwreiddiol yn cynnwys Lyn Ebenezer ac Elinor Jones.

Yn 2006 fe'i ail-enwyd yn Wedi 3 ac ymunodd John Hardy a Rhodri Owen fel cyflwynwyr. Yn 2012 gwobrwyd cytundeb newydd gan S4C i gwmni cynhyrchu Tinopolis a fe newidiwyd yr enw i Prynhawn Da.

Mae'r rhaglen yn cynnwys adran goginio, a gyflwynir yn aml gan Gareth Richards.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cegin S4C". Cyrchwyd 26 Mawrth 2024.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.