Lyn Ebenezer

llenor (1939-)

Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu a golygydd awdur toreithiog o Gymro yw Lyn Ebenezer (ganwyd Rhagfyr 1939). Ymhlith ei waith ar y teledu bu'n cyflwyno Hel Straeon, ynghyd â P'nawn Da ar S4C.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd a magwyd Morgan Llewelyn Ebenezer ym Mhontrhydfendigaid.

Gyrfa golygu

Cychwynodd ei yrfa newyddiadurol drwy anfon pytiau i'r papur lleol yn Aberystwyth, y Cambrian News, pan oedd yn gweithio fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yna aeth i weithio llawn amser i'r Cambrian News cyn symud at Y Cymro.[1]

Yn ystod yr 1980au bu'n ohebydd ar y rhaglen gylchgrawn Hel Straeon a bu'n gyflwynydd ar Heno a P'hawn Da.

Gyda Sion Eirian bu'n gyfrifol am greu cymeriad y Ditectif Arolygydd Noel Bain, a cyd-sgriptiodd y ffilm Noson yr Heliwr (1991) ac ysgrifennodd addasiad nofel o'r un enw yn 1994. Yn dilyn hyn darlledwyd pum cyfres o gyfres dditectif Yr Heliwr mewn cyd-gynhyrchiad rhwng S4C a Channel 5.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Pantyfedwen 2007.[2]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Jên ac eu mab yw'r darlledwr Dylan Ebenezer.[3]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gair, Sain a Llun. Gwales. Adalwyd ar 13 Chwefror 2017.
  2.  Eisteddfod Pantyfedwen. BBC Lleol i Mi: Y Canolbarth (Mehefin 2007).
  3. Ateb y Galw: Lyn Ebenezer , BBC Cymru Fyw, 13 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.