Rhodri Owen
Cyflwynydd radio a theledu Cymraeg ei iaith yw Rhodri Owen (ganed 21 Medi 1972).
Rhodri Owen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1972 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Priod | Lucy Owen |
Bywgraffiad
golyguCafodd Owen ei eni yn y Crwys, a'i fagu ar Benrhyn Gwyr[1] i deulu Cymraeg eu hiaith. Mynychodd Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregwyr, Abertawe cyn symud i'r chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Ystylafera. Roedd Owen hefyd yn aelod o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.[2]
Gyrfa
golyguDechreuodd ei yrfa yn darlledu yn y Gymraeg ar gyfer Radio Cymru. Parhaodd i weithio ar raglen frecwast fore Sadwrn, cyn iddo symud i sioe frecwast Red Dragon FM. Wedi iddo gyflwyno ar BBC Radio 5 Live, daeth Owen yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Wales hefyd.
Dechreuodd Owen weithio ar y teledu ar S4C ym 1993 fel cyflwynydd parhad yn ystod rhaglenni i blant, cyn iddo ymddangos ar amryw o raglenni gan gynnwys y rhaglenni cylchgrawn i blant Noc Noc ac Uned 5. Ar ôl gweithio am chwe mlynedd ar y sianel Gymraeg, symudodd Owen i Lundain ac ymunodd â CBBC, yn cyflwyno'r rhaglen i blant Short Change. Aeth ymlaen i weithio ar raglen ymchwilio ar ran cwsmeriaid BBC Wales, X-Ray ac ef oedd cyflwynydd 4x4, Liquid Assets ar BBC Three, a'r rhaglen deithio Holiday ar BBC1. Yna treuliodd dair blynedd yn gweithio ar raglen deithio ITV Wish You Were Here...?, Holiday in Style ar gyfer UK Style a Hard Cash ar BBC1.[3]
Roedd Owen yn bresennol yn westai ar rhaglen Derek Acorah's Ghost Towns ar Living TV[4]. Yn 2006, cyd-gyflwynodd Britain's Dream Homes gyda Melissa Porter ar BBC Two.
Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Owen, Bwyd bwyd bwyd (food food food), am fwyd iach wedi ei anelu at blant. Yn 2009, daeth yn gyflwynydd rhaglen S4C Wedi 3 (a'i olynydd Prynhawn Da) ac yn gyfarwyddwr stiwdio Planed Plant.[5]. Ers 2011 mae'n un o brif gyflwynwyr Heno ar S4C.
Bywyd personol
golyguPriododd Owen y cyflwynydd teledu Lucy Cohen ym mis Mehefin 2004, yn Eglwys Saint Andras, Saint Andras ger Dinas Powys,[6] ac mae ganddynt un mab, Gabriel. Bu farw brawd Owen, Geraint Owen yn sydyn ar 11 Gorffennaf 2009.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhodri and Matthew take to the mud!. Clyne Farm.
- ↑ Bond flirts with politics. icWales.
- ↑ X-Ray - Rhodri Owen. BBC Wales.
- ↑ Ghost Towns. Living TV.
- ↑ Owen and Walford to join Wedi 3. WalesOnline.co.uk (5 Ionawr 2009).
- ↑ Paul Maunder (23 Rhagfyr 2005). TV star Rhodri in court. South Wales Echo.
- ↑ Sudden death of ex-soap actor, 43. BBC (13-07-2009).