Psycho (ffilm 1960)

Mae Psycho (1960) yn ffilm o'r Unol Daleithiau a gyfarwyddwyd gan Alfred Hitchcock yn seiliedig ar sgript gan Joseph Stefano. Mae'n seiliedig ar nofel o'r un enw gan Robert Bloch, a gafodd ei ysbrydoli gan droseddau llofrudd o Wisconsin o'r enw Ed Gein. Darlunia'r ffilm gyfarfyddiad rhwng ysgrifenyddes, Marion Crane (Janet Leigh), sydd yn cuddio mewn motel wedi iddi ddwyn wrth ei chyflogwr, a pherchennog y motel, Norman Bates (Anthony Perkins), a'r hyn sy'n digwydd wedi iddynt gyfarfod.

Psycho

Trailer
Cyfarwyddwr Alfred Hitchcock
Cynhyrchydd Alfred Hitchcock
Ysgrifennwr Nofel:
Robert Bloch
Sgript:
Joseph Stefano
Samuel A. Taylor
Serennu Anthony Perkins
Janet Leigh
Vera Miles
John Gavin
Martin Balsam
John McIntire
Cerddoriaeth Bernard Hermann
Sinematograffeg John L. Russell
Golygydd George Tomasini
Dylunio
Cwmni cynhyrchu 1960–1968:
Paramount Pictures
1968-presennol:
Universal Pictures
Amser rhedeg 109 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm arswyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.