Ensemble cerddorol sy'n cynnwys pianydd a phedwar chwaraewr arall yw pumawd piano. Defnyddir yr enw hefyd i gyfeirio at gyfansoddiad a ysgrifennwyd i'w berfformio gan grŵp o'r fath. Fel arfer bydd y pedwar offeryn arall yn bedwarawd llinynnol, sef dau ffidil, fiola a sielo. Fodd bynnag, cyn y 1840au roedd yn eithaf cyffredin i'r pedwar offeryn hynny fod yn ffidil, fiola, sielo a bas dwbl; y pumawd mwyaf adnabyddus ar gyfer y cyfuniad hwn o offerynnau yw'r Pumawd yn A fwyaf, D667, "Y Brithyll" (1819), gan Franz Schubert.