Pussy Riot
Band punk rock ffeministaidd o Foscow ydy Pussy Riot. Mae'r grŵp yn sgwennu ei enw efo llythrennau Lladin a chaiff hynny ei gopio gan y Wasg yn Rwsia. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn Awst 2011 ac mae oddeutu 12 aelod, pob un yn gwisgo balaclafa lliwgar ac yn defnyddio llysenwau yn hytrach nag enwau go iawn.
Pussy Riot | |
---|---|
Saith aelod y band Pussy Riot | |
Y Cefndir | |
Tarddiad | Moscow, Rwsia |
Math o Gerddoriaeth | Punk rock, anarchiaeth |
Cyfnod perfformio | 2011 | –present
Label | Dim |
Gwefan | pussy-riot.livejournal.com |
Fel arfer maen nhw'n trefnu gigs byr fyfyr, heb gyhoeddusrwydd ymlaen llaw: gigiau profoclyd gan dynnu coes gwleidyddion megis y Prif Weinidog Vladimir Putin. Cynhelir y gigs yn aml mewn lleoliadau anghyffredin, llefydd fel Lobnoye Mesto yn y Sgwâr Coch neu ar dop bws neu dram neu ar sgaffold. Golygir y perfformiadau hyn ganddynt a'i bostio ar y we.[1]
Ar 21 Chwefror 2012, perfformiodd pump aelod o'r grŵp[2] yr hyn a alwant yn "weddi'r pync" ("punk Prayer"), mewn eglwys yng nghanol Moscow, sef Eglwys Gadeiriol Crist yr Achubwr.[3] Camodd swyddogion yr eglwys ymlaen i'w hatal rhag gorffen y gig, ond erbyn fin nos roedd aelodau'r grŵp wedi golygu'r fideo a'i alw'n “O, Fam Crist, rho Putin dan Glo!”. Yn y gân roeddent yn sarhau Putin a phennaeth yr Eglwys Uniongred yn Rwsia (Kirill I).[4][5][6]
Arestio a charchar
golyguAr 3 Mawrth arestiwyd dau aelod o'r grŵp: Nadezhda Tolokonnikova a Maria Alyokhina ar gyhuddiad o hwliganiaeth. Arestiwyd trydydd aelod ar y 15fed: Yekaterina Samutsevich.[7]
Fe'u cadwyd yn y ddalfa tan ddiwedd Gorffennaf pan roddwyd hwy ar brawf; daeth cyhoeddusrwydd byd-eang i'r achos hwn. Ar 21 Awst dedfrydwyd y tair merch i ddwy flynedd yr un o garchar.[8][9]
Yn ôl llefarydd ar ran y BBC, roedd barn cryf ledled y byd fod y ddedfryd yn rhy uchel, yn rhy drwm.[10] Credir fod dau aelod arall o'r grŵp wedi cymryd y goes a'i heglu hi o'r wlad, rhag ofn iddynt hwythau gael eu rhoi ar brawf. Edrychir ar y dair arall gan nifer o fudiadau fel carcharorion gwleidyddol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Pussy Riot dig claws into Putin". Financial Times. 16 Mawrth 2012.
- ↑ "Russian police hunt for more members of Pussy Riot". The Guardian. 20 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-23. Cyrchwyd 2012-09-02.
- ↑ Pussy Riot gig at Christ the Savior Cathedral (original video). 2 Chwefror 2012. Cyrchwyd 1 Medi 2012.
- ↑ "Six arrested at Pussy Riot protest in New York". Yahoo! News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-23. Cyrchwyd 2012-09-02.
- ↑ "Pussy Riot sentenced to two years in prison colony over anti-Putin protest". The Guardian. 17 Awst 2012.
- ↑ Carol Rumen (20 Awst 2012). "Pussy Riot's Punk Prayer is pure protest poetry". The Guardian.
- ↑ "Мэр Рейкьявика проехал по городу в образе Pussy Riot". lenta.ru.
- ↑ "Pussy Riot sentenced to two years in jail". RT. 17 Awst 2012.
- ↑ "Pussy Riot found guilty of hooliganism by Moscow court". BBC NEWS. 17 Awst 2012. Cyrchwyd 17 Awst 2012.
- ↑ BBC, 18 Awst 2012