Carcharor gwleidyddol

(Ailgyfeiriad o Carcharorion gwleidyddol)

Unigolyn sy'n cael ei garcharu gan yr awdurdodau gwladol oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol neu grefyddol yw carcharor gwleidyddol.

Carcharor gwleidyddol
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, rôl Edit this on Wikidata
Mathprisoner, grŵp o bobl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn aml mae llywodraethau yn cyfiawnhau carcharu gwrthwynebwyr trwy honni, yn gam neu'n gymwys, eu bod yn cefnogi dulliau treisgar, yn ceisio dymchwel y wladwriaeth, neu'n derfysgwyr. Y gwahaniaeth rhwng carcharor gwleidyddol a charcharor cydwybod yw fod y term cyntaf yn cynnwys pobl sydd yn "euog" o geisio dymchwel llywodraeth, e.e. pobl yn ymladd yn erbyn system annemocrataidd neu'n ceisio dymchwel llywodraeth sy'n elyniaethus i'w credoau ac sy'n defnyddio trais o ryw fath er mwyn gwneud hynny, tra bod yr ail yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl a garcharir yn unig am eu bod yn amharod i ildio i system sydd, yn eu tyb hwy, yn anghyfiawn, a.y.y.b., ond sydd ddim yn euog o ddefnyddio dulliau treisgar neu anghyfansoddiadol, yn ogystal â phobl a garcharir am y "drosedd" o fod yn wahanol a dim byd mwy.

Rhai carcharorion gwleidyddol enwog golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.