Darn arian tocyn Rhufeinig, i'w defnyddio mewn puteindai efallai, sy'n portreadu symbolau neu weithredoedd rhywiol yw spintria (Lladin: lluosog, spintriae ).

Spintria
Math o gyfrwngdarn arian tocyn Edit this on Wikidata
Mathtesera Edit this on Wikidata
Rhan onwmismateg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd

golygu

Mae'n bosibl eu bod yn cael eu defnyddio i dalu puteiniaid, a oedd yn aml yn siarad iaith wahanol, am eu gwasanaethau, ond nid oes cytundeb terfynol ar y pwynt. Mae'r rhifau a geir arnynt yn cyfateb i brisiau gosod am wasanaethau puteiniaid yn y Rhufain Hynafol (ymchwil Prifysgol Queensland) ac mae'r delweddau o ryw neu'r organau rhywiol yn ategu'n gryf y tebygolrwydd. Mae ymchwilwyr eraill yn credu eu bod yn docynnau gamblo ac iddynt gael eu cynhyrchu am gyfnod byr yn unig, yn y ganrif 1af OC, efallai.

 
Spintriae, 2il ganrif

Nodweddion

golygu

Darnau o fetel pres neu efydd, heb fod yn fawr, yw'r enghreifftiau sydd ar gael. Ceir amrywiaeth o ddelweddau a symbolau arnynt, i gyd o natur rhywiol neu erotig; dyn a merch yn cael cyfathrach rhywiol neu'n mwynhau gweithredoedd rhywiol eraill, darluniau o'r organ rhywiol gwrywaidd, ac ati.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau a dolenni allanol

golygu
 
Spintriae

Cyfeiriadau

golygu

Delweddau

golygu