Cymeriad o fyd llên gwerin yn wreiddiol sy'n gymeriad adnabyddus mewn chwedlau i blant ac yn y pantomeim yw Pws Esgid Uchel. Cofnodir ei chwedl mewn print am y tro cyntaf fel Le Maître chat ou le Chat botté yn y gyfrol o chwedlau Les Contes de ma mère l’Oye (1697) gan Charles Perrault.

Pws Esgid Uchel: darlun pin ac inc gan Gustave Doré i ddarlunio chwedlau Perrault

Yn chwedl Perrault mae Pws Esgid Uchel yn adrodd hanes ffantasïol cath sy'n medru siarad ac ymresymu sy'n cynorthwyo trydydd fab melinydd i drechu ellyll ac ennill llaw tywysoges.

Pan fu farw, gadawodd hen felinydd ei gyfoeth i'w rannu rhwng ei dri fab. Mae'r hynaf yn etifeddu'r felin ei hun, yr ail hynaf y mul, a'r ieungaf y gath. Heb ddimai goch yn ei boced a methu gwybod beth i'w wneud efo'i ran, yn ei anobaith mae'r mab ieuengaf yn meddwl am fwyta'r gath. Ond mae'r gath, er mawr syndod i'w feistr newydd, yn dagelu ei bod yn medru siarad. Mae'n gwisgo fel y dyn ifanc, diolch i hen sach a phar o sgidiau uchel a llawer o ystryw, ac yn llwyddo i gyflwyno'r dyn ifanc i'r llys fel gŵr bonheddig ifanc, Ardalydd Carabas, gan ei alluogi yn y diwedd, ar ôl sawl antur, i ennill llaw merch y brenin a'i phriodi.

Credir fod gwreiddiau'r chwedl yn gorwedd yng nghyfnod yr Henfyd. Cofnodir fersiwn yn Fenis yn 1634. Mae'n debyg fod Perrault wedi codi'r chwedl Ffrangeg o'r traddodiad llafar.

Ceir fersiwn Gymraeg o'r chwedl i blant gan Myrddin ap Dafydd (Pws Esgid Uchel, Gwasg Carreg Gwalch [1]).

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: