Bardd, llenor a beirniad llenyddol o Ffrainc sy'n adnabyddus yn bennaf heddiw fel awdur Contes de ma mère l’Oye, cyfrol enwog o chwedlau gwerin Ffrangeg, oedd Charles Perrault (12 Ionawr 162816 Mai 1703).

Charles Perrault
Portread Charles Perrault (tua 1672) gan Philippe Lallemand (1636–1716)
Ganwyd12 Ionawr 1628 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mai 1703 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Saint-Louis
  • Collège de Beauvais
  • hen brifysgol Orléans
  • Prifysgol Orléans Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, bardd-gyfreithiwr, casglwr straeon, critig, awdur plant, damcaniaethwr celf Edit this on Wikidata
Swyddseat 23 of the Académie française, Q99197615, Q2996183 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLes Contes de ma mère l’Oye, Q110997625 Edit this on Wikidata
Arddullstori dylwyth teg, Q113835463 Edit this on Wikidata
Mudiadclasuriaeth Edit this on Wikidata
PriodMarie Guichon Edit this on Wikidata

Ganed Perrault ym Mharis, yr olaf o saith blentyn Pierre Perrault, o ddinas Tours yn wreiddiol, a'i wraig Paquette Le Clerc. Daeth ei frawd hŷn Claude Perrault yn bensaer enwog. Astudiodd lenyddiaeth ac athroniaeth yng Ngholeg Beauvais ym Mharis ond roedd yn fyfyriwr disglair ac annibynnol a gadawodd gyda chyfaill ar ôl ffraeo ag un o'r athrawon, fel y mae ei Mémoires yn cofnodi. Ar ôl cyfnod o ddarllen ac astudio'r clasuron, hen a modern, y Beibl a hanes Ffrainc, daeth yn dwrnai yn 1651. Enillodd ffafr Jean-Baptiste Colbert a chafodd le yn llys y brenin Louis XIV. Erbyn 1671 roedd yn aelod o'r Académie française ac yn 1694 ysgrifennodd y rhagymadrodd i eiriadur enwog yr academi, y Dictionnaire de l'Académie française. Bu farw ym Mharis ym mis Mai 1703.

Gwaith llenyddol

golygu

Fel cynifer o lenorion eraill ei oes roedd Perrault yn ŵr amryddawn. Roedd yn fardd medrus a gyfansoddodd sawl cerdd o safon uchel, yn feirniad llenyddol blaengar a ochrai gyda'r Moderniaid yn erbyn yr Hynafwyr gan bledio achos barddoniaeth Ffrangeg newydd glasurol a fyddai'n ddyfnach a mwy ddyrchafedig na barddoniaeth yr Henfyd (er bod ganddo barch at yr hen awduron hefyd), ac yn ysgrifwr ar sawl pwnc yn cynnwys hanes Ffrainc.

 
Gustav Doré: "Hugan Goch Fach a'r Blaidd"

Ond er ei fod yn llenor penigamp yn sawl maes, fe'i cofir heddiw fel awdur Contes de ma mère l’Oye, ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités (neu "Contes de Perrault"/"Chwedlau Perrault"), a gyhoeddwyd yn ei ffurf derfynol ym 1697. Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur. Mae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:

  • La Marquise de Salusses ou la Patience de Griselidis (1691)
  • Les Souhaits ridicules (1693), cerdd
  • Peau d’Âne
  • La Belle au bois dormant (1696) ("Sleeping Beauty")
  • Contes de ma mère l’Oye, Histoires ou Contes du temps passé avec des moralités (1697). Cyfrol sy'n cynnwys:

Copiwyd ac addaswyd y chwedlau hyn gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg moesoli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes Hugan Goch Fach (Little Red Riding Hood) diolch i fersiwn y Brodyr Grimm a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coedwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Le Siècle de Louis le grand
  • Parallèle des anciens et des modernes en ce qui regarde les arts et les sciences. Dialogues avec le poème du siècle de Louis-le-Grand et une épitre en vers sur le génie (1688)
  • L’Énéïde burlesque (1648)
  • Les Murs de Troyes, ou L’origine du burlesque (1649)
  • Dialogue de l’amour et de l’amitié (1660)
  • Le Miroir, ou la Métamorphose d’Orante (1661)
  • Le Labyrinthe de Versailles (1670).
  • Saint Paulin, évesque de Nole, poème, avec une epistre chrestienne sur la pénitence, et une ode aux nouveaux-convertis (1686).
  • La Chasse. À monsieur de Rosières (1692)
  • Les Hommes illustres qui ont paru en France pendant ce siècle, avec leurs portraits au naturel (1696-1700)
  • Contes de ma mère l’Oye, ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités (1697)
  • Mémoires de ma vie. Voyage à Bordeaux (1709)
  • Mémoires sur sa vie, en quatre livres depuis sa naissance jusqu’en 1687 (Paris, 1826).
  • Courses de têtes et de bagues, faites par le roi et par les princes et seigneurs de sa cour (1670)
  • Recueil de divers ouvrages en prose et en vers (1675)
  • Saint Paulin, évêque de Nole, poème (1686)

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Ffrangeg) Contes de Perrault Cyfle i lwytho i lawr ffeiliau mp3 o'r chwedlau unigol i'w gwrando yn rhad ac am ddim.