Y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol
Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (Ffrangeg: Comité international olympique) yn fudiad sydd wedi'i leoli yn Lausanne yn Y Swistir. Crëwyd y Pwyllgor gan Pierre de Coubertin a Demetrios Vikelas ar 23 Mehefin 1894. Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys y 205 o Bwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol.
Math o gyfrwng | sefydliad di-elw, sefydliad anllywodraethol, corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol |
---|---|
Label brodorol | International Olympic Committee |
Dechrau/Sefydlu | 23 Mehefin 1894 |
Yn cynnwys | IOC Session, Olympic Charter, Olympic Congress, IOC Athletes' Commission, Ethics Commission of the International Olympic Committee |
Pennaeth y sefydliad | president of the International Olympic Committee |
Sylfaenydd | Pierre de Coubertin, Dimitrios Vikelas |
Aelod o'r canlynol | International Association for Sports and Leisure Facilities, SportAccord |
Isgwmni/au | Olympic Channel Services, Olympic Broadcasting Services, European Olympic Committees, Association of National Olympic Committees of Africa, Panam Sports, Olympic Council of Asia, Oceania National Olympic Committees |
Pencadlys | Lausanne, Château de Vidy |
Enw brodorol | International Olympic Committee |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Gwefan | https://olympics.com/ioc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r POR yn trefnu'r Gemau Olympaidd modern a gynhelir yn yr Haf a'r Gaeaf, pob pedair blynedd. Trefnwyd y Gemau Olympaidd gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol am y tro cyntaf yn Athen, Gwlad Groeg ym 1896; cynhaliwyd Gemau'r Gaeaf yn Chamonix, Ffrainc, ym 1924. Tan 1992 arferai cynnal y Gemau Haf a Gaeaf yn yr un flwyddyn. Fodd bynnag, ar ôl y flwyddyn honno, symudodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol Gemau'r Gaeaf fel eu bod yn disgyn rhwng y Gemau Haf, er mwyn cynorthwyo gyda'r trefniadau o gynnal dau ddigwyddiad dwy flynedd ar wahan i'w gilydd.