Pysgota

y weithred o ddal pysgod
(Ailgyfeiriad o Pysgotwr)

Y weithred o ddal pysgod yw pysgota. Gall fod yn ddiddordeb, neu gall fod yn alwedigaeth. Gellir pysgota mewn afon, camlas, llyn neu ar y môr. Weithiau defnyddir cwch neu llong i bysgota ac mae'r cwrwgl yn gwch pysgota hynafol a ddefnyddir yn arbennig mewn rhannau o Gymru ers canrifoedd. Yn y rhan fwyaf o wledydd, bellach, mae'n rhaid cael trwydded i bysgot a gelwir pysgotwyr anghyfreithlon yn 'botsiar'.

Rhaeadr Celilo Falls ac argae Dalles Dam. Rhan o ffilm a wnaed in 1956 gan News Magazine of the Screen Cyfrol 7 Rhif. 2.

Mathau o bysgota

golygu

Pysgota â gaff a thryfar

golygu

Dyma ddau erfyn dieflig y potsiar afon wedi eu gwneud yn yr efail gan of yn ôl pob tebyg. Mae'r gaff (uchod) yn dal yn erfyn sydd yn cael ei ddefnyddio heddiw ynghyd â gwialen wrth gwrs ond wedi ei wneud â metel llawer ysgafnach a llyfnach a heb yr adfach (barb) arno. Wedi dal yr eog gyda gwialen byddai'r gaff yn cael ei ddefnyddio i godi'r eog i'r lan. Ond yn ôl pob tebyg byddai’r un yn y llun isod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd anghyfreithiol, sef bachu pysgodyn a fyddai yn cuddio o dan dorlan o fewn cyrraedd y potsiar a byddai'r adfach yn rhwystro i'r eog ddianc.

Y dryfar wedyn yn erfyn ciaidd - rhoddid coes hir ar hwn a byddai yn cael ei drywanu i'r eog fel na fyddai dim cyfle i'r creadur ddianc oddi wrtho. Byddai hwn yn gwneud tipyn o lanast ar y pysgodyn. Mae’n anghyfreithlon i'w gario heb son am eu defnyddio.[1]

Roedd rhai ffrindiau [ac o hyd am wn ni] yn pysgota’r ‘pysgots tryfar’ ar draeth Llanelli, sef cerdded yn droednoeth a theimlo symudiad dan draed yna fforchio a dal wrth gwrs. Byddai rhai o'r staff yn mynd ar ôl yr Ysgol a dal y pysgod yn gyson.[2]


 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tom Jones, cyn geidwad afonydd, Bwletin Llên Natur 23
  2. Ken Nantlle, Bwletin Llên Natur 23