Mae Qom yn un o 30 o daleithiau cyfoes Iran gyda arwynebedd tir o 11,237 km², sef 0.89% o dir Iran. Fe'i lleolir yng ngogledd y wlad, a'i prifddinas daleithiol yw Qom. Cafodd ei ffurfio o ran o dalaith Tehran yn 1995. Yn 2005, roedd gan y dalaith boblogaeth o tua 2,000,000 gyda 91.2% ohonynt yn byw mewn ardaloedd trefol a 8.8% yn yr ardaloedd cefn gwlad. Mae'r dalaith yn cynnwys yn ddinas (Qom), pedair sir, naw ardal wledig, a 256 o bentrefi.

Qom
MathTaleithiau Iran Edit this on Wikidata
PrifddinasQom Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,292,283, 1,151,672, 1,046,737 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIran Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Arwynebedd11,526 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Isfahan, Semnān, Markazi, Tehran Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.6456°N 50.8798°E Edit this on Wikidata
IR-25 Edit this on Wikidata
Map
Canran y diwaith9.2 % Edit this on Wikidata
Lleoliad talaith Qom yn Iran

Mae hinsawdd talaith Qom yn amrywio rhwng hinsawdd anialwch a lled-anial, ac yn cynnwys ardaloedd mynyddig, troedfryniau a gwastadeddau. Am ei fod yn ardal lled anial ymhell o'r môr, mae ganddi hinsawdd sych gyda lleithder isel a dim llawer o law. O'r herwydd, nid yw amaethyddiaeth yn bosibl yn y rhan fwyaf o'r dalaith, yn arbennig ger y llynnoedd halen. Ceir dau ly halen mawr yn nhalaith Qom, sef Howz e Soltan, sy'n gorwedd 36 km i'r gogledd o ddinas Qom, a Namak, sy'n 80 km i'r dwyrain o Qom (mae tua 20% o'r llyn hwnnw yn gorwedd yn y dalaith).

Taleithiau Iran Baner Iran
Alborz | Ardabil | Bushehr | Chaharmahal a Bakhtiari | De Khorasan | Dwyrain Azarbaijan | Fārs | Gīlān | Golestān | Gogledd Khorasan | Gorllewin Azarbaijan | Hamadān | Hormozgān | Īlām | Isfahan | Kermān | Kermanshah | Khūzestān | Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad | Kordestan | Lorestān | Markazi | Māzandarān | Qazvin | Qom | Razavi Khorasan | Sistan a Baluchestan | Semnān | Tehran | Yazd | Zanjan