Agor y brif ddewislen
Lleoliad talaith Semnān yn Iran.

Un o daleithiau Iran yw Semnān (Iraneg سمنان ), a leolir yng nghanolbarth gogledd y wlad. Fe'i henwir ar ôl ei phrifddinas, Semnān.

Gydag arwynebedd o 96,816 km sgwâr, mae'r dalaith yn ymestyn ar hyd cadwyn mynyddoedd yr Alborz ac yn ffinio ar anialwch Dasht-e Kavir (Yr Anialwch Halen Mawr) i'r de. Rhennir y dalaith yn siroedd sy'n cynnwys Semnan, Damghan, Shahrood, Mehdishahr (Sangsar) a Garmsar. Yn 1996 roedd gan dalaith Semnān boblogaeth o 501,000, gyda 119,778, yn byw yn y brifddinas (Semnān); y ddinas fwyaf yw Shahroud, gyda 231,831 o bobl yn byw ynddi.

Dolenni allanolGolygu